Danniel Williams (chwith) a Simon Brooks (dde)
Bydd yr academyddion Dr Simon Brooks a’r Athro Daniel G. Wiilliams yn mynd ar daith o amgylch Cymru i drafod eu cyfrolau diweddaraf ar genedlaetholdeb Cymreig.

Mae llyfr newydd Simon Brooks, ‘Pam na fu Cymru?’, yn trafod methiant y mudiad cenedlaethol ieithyddol yn yr 19eg ganrif a thu hwnt.

Bydd Daniel G. Williams hefyd yn trafod ei gyfrol newydd ef, Wales Unchained, sy’n canolbwyntio ar hunaniaeth Gymreig yn yr 20fed ganrif.

Fe fydd y daith yn ymweld ag Aberystwyth, Caerdydd, Caernarfon a maes yr Eisteddfod Genedlaethol.

Bydd yr holwyr yn cynnwys yr Athro Richard Wyn Jones ac arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.

Dywedodd yr awduron mai’r nod oedd hybu trafodaeth am genedlaetholdeb Cymreig a sut y gall dadansoddiad o hanes y mudiad fod o fudd i’r ddadl gyfoes.

Bu Ifan Morgan Jones, darlithydd mewn newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Bangor, yn holi’r ddau yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, ac mae’r cyfweliad llawn ar gael i wrando arno isod.

Dyddiadau’r daith

Mawrth, Gorffennaf 7, am 19.00. Aberystwyth – Caffi MGs. Cadeirydd: Jasmine Donahaye. Noddwyr: Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mynediad: prynwch baned! Digwyddiad Cymraeg.

Iau, Gorffennaf 9, am 19.30. Caerdydd – Chapter. Cadeirydd: Richard Wyn Jones. Noddwyr: Gwasg Prifysgol Cymru. Mynediad am ddim. Digwyddiad Cymraeg.

Llun, Gorffennaf 13, am 19.30. Ynyshir, Rhondda – The Workers Gallery. Cadeirydd: Leanne Wood. Noddwyr: Plaid Cymru Rhondda. Mynediad am ddim. Digwyddiad cyfrwng Saesneg.

Sadwrn, Gorffennaf 18, am 11.30. Caernarfon – Clwb Canol Dre. Cadeirydd: Myfanwy Davies. Rhan o Gŵyl Arall. Mynediad: £5. Digwyddiad Cymraeg (translation available)

Gwener, Awst 7, am 10.30. Eisteddfod Genedlaethol – Pabell y Cymdeithasau 2. Cadeirydd: Huw Williams. Noddwyr: Adran Athronyddol Urdd Graddedigion Prifysgol Cymru. Mynediad: tocyn i’r maes. Digwyddiad Cymraeg.