Megan Morgans
Megan Morgans fu’n gwylio ffilm ‘The Forgotten Kingdom’ yn ddiweddar am fywyd yn Lesotho …

Pe bai rhywun yn gofyn i mi beth sy’n gwneud ffilm dda, tybiwn mai fy ateb i yn syml byddai; ffilm rwy’n ei drafod yr holl ffordd adre o’r sinema, a ffilm sy’n chwarae ar fy meddwl am ddiwrnodau ar ôl hynny (nid mod i’n arbenigwraig wrth gwrs!).

Yn anffodus, nid oes llawer o ffilmiau sy’n cael yr argraff hon arnaf. Ond roedd ‘The Forgotten Kingdom’ yn un o’r ffilmiau a wireddodd yr uchod.

Gwyliais y ffilm yn y Chapter yng Nghaerdydd nos Sul. Mae’r ffilm wedi ei leoli yn Lesotho, gwlad fach yn ne cyfandir Affrica sydd yn canolbwyntio ar stori dyn ifanc, Atang, wrth iddo ddychwelyd i Lesotho i gladdu ei Dad ar ôl bod yn byw ac yn gweithio yn Johannesburg.

Fe es i weld y ffilm gan ei fod yn rhan o ddathliadau’r elusen Dolen Cymru Lesotho yn 30 oed a gan fy mod wedi ymweld â’r wlad ei hun. Roeddwn yn ymwybodol o ddiwylliant arbennig y wlad, ac roeddwn yn edrych ymlaen at gael gweld y wlad brydferth unwaith eto.

Dysgu am y wlad

Cafodd ‘The Forgotten Kingdom’ ei chynhyrchu gan gwmni o America, a chafodd ei rhyddhau yn 2013. Nid yw’n ffilm hynod newydd, ond dyma oedd y première yng Nghymru.

Andrew Mudge, dyn o Efrog Newydd, a’i hysgrifennodd a’i chyfarwyddo, ac  mae ei ffilm wedi ennill 12 o wobrau mewn gwyliau ffilmiau rhyngwladol, a thair o wobrau yn yr Africa Movie Academy Awards. Ond nid yw’n ffilm sydd wedi cyrraedd y brif ffrwd (hyd yn hyn!).

Plot digon syml oedd i’r ffilm, ond ag elfennau unigryw iawn. Mae’n stori sy’n dangos problemau cyffredin gwlad sy’n datblygu.

Mae’r plot yn datblygu’n stori garu gymhleth rhwng y prif gymeriad Atang, a Dineo. Efallai ei bod yn swnio fel plot hawdd ei ragweld ond mae natur a hunaniaeth y Basotho (trigolion Lesotho) yn ei gwneud yn ffilm unigryw.

Treuliodd y cyfarwyddwr flwyddyn yn Lesotho cyn dechrau ffilmio yn casglu straeon wrth bobl y wlad ac yn dysgu am eu diwylliant, felly mae’r darlun o’r wlad sy’n cael ei gyflwyno yn un real ac amrwd. Roedd gallu profi traddodiadau a diwylliant Lesotho yn brofiad diddorol.

Yn yr iaith Sesotho roedd y ffilm, gydag is-deitlau Saesneg. Roeddwn wedi blino ar ôl penwythnos prysur y rygbi Chwe Gwlad, ac i fod yn onest, doeddwn i ddim yn edrych ymlaen at orfod darllen is-deitlau trwy gydol y ffilm.

Ond erbyn i’r ffilm ddechrau anghofiais fy mod i wedi blino, ac o fewn rhyw bum munud doeddwn i ddim yn ymwybodol mod i’n darllen o gwbl.

Actorion naturiol

Roedd yr actorion mor naturiol a chredadwy, cefais gymaint o sioc wrth ddarganfod nad oedd mwyafrif o’r bobl yn y ffilm yn actorion proffesiynol.

Er enghraifft y bachgen amddifad, seren y ffilm yn fy marn i, bachgen cyffredin oedd o mewn ysgol gyffredin yn Lesotho, wedi ei ddarganfod gan y cyfarwyddwr wrth gynnal gweithdy drama yn yr ysgol.

Ni chafodd Lebohang Ntsane wers ddrama erioed, a mwy na thebyg nid oedd wedi gwylio llawer o ffilmiau. Dyma oedd yn gyfrifol am y perfformiad mor naturiol ac emosiynol efallai.

Dyw hi ddim yn syndod iddo ennill y wobr am y Best Child Actor yn yr Africa Movie Academy Awards yn 2014.

Zenzo Ngqobe a Nozipho Nkelemba a oedd yn chwarae’r prif gymeriadau Atang a Dineo. Roedd eu perthynas yn gredadwy ac roedd y ddau yn llwyddo i gyfleu cymeriadau crwn a chymhleth yn llwyddiannus.

Golygfeydd godidog

Er bod Lesotho yn wlad sy’n datblygu, ac er ein bod ni’n cael blas o’r ardaloedd tlawd, mae’r golygfeydd yn y ffilm o’r mynyddoedd godidog a’r dirwedd fythgofiadwy yn anhygoel.

Dywedodd Andrew Mudge: “My own experience of discovering this mostly overlooked country called Lesotho was like finding something exquisitely beautiful and unique.”

Roedd darllen am y ffilm ar ôl ei wylio hyd yn oed yn fwy diddorol, yn enwedig wrth ddarllen am y broses o’i ffilmio, er enghraifft cario’r offer ffilmio ar draws y wlad ar ffyrdd garw ac yn y blaen.

Mae modd darllen mwy am y broses o greu ‘The Forgotten Kingdom’ ar eu gwefan.

Mae’n ffilm wirioneddol gwerth ei gweld, sy’n rhoi darlun go iawn o wlad nad yw pobl yn gyfarwydd â hi.

Wrth wylio’r ffilm, ni allwn beidio â meddwl am y tebygrwydd rhwng Cymru a Lesotho, gwlad fach yng nghanol De Affrica sydd wedi llwyddo i gadw ei hunaniaeth a’i hiaith er yr holl fygythiadau allanol.

Mae ‘The Forgotten Kingdom’ yn anhygoel i feddwl mai dyma’r feature film pwysig cyntaf i gael ei chreu yn Lesotho.

Mae’n ffilm sy’n eich galluogi i lefain a chwerthin, yn ogystal â dysgu am ddiwylliant gwlad sydd bellach yn rhan o hanes Cymru.

Mae Megan Morgans yn fyfyrwraig ym Mhrifysgol Caerdydd.