Fe gipiodd ffilm am brotestwyr hoyw yn ystod Streic y Glowyr yng Nghymru wobr BAFTA neithiwr.
Cafodd ‘Pride’ ei henwebu ar gyfer nifer o wobrau gan gynnwys y Ffilm Orau, ac fe aeth y wobr i’r awdur Stephen Beresford a’r cynhyrchydd David Livingstone.
Mae’r ffilm eisoes wedi cipio tair gwobr yng Ngwobrau Ffilmiau Annibynnol Prydain, yn ogystal ag enwebiad yn y Golden Globes.
Eddie Redmayne a enillodd y wobr am yr actor gorau am ei berfformiad fel yr Athro Stephen Hawking yn y ffilm The Theory Of Everything, gyda Julianne Moore yn cipio’r wobr am yr actores orau am ei rhan yn y ffilm Still Alice.
Boyhood enillodd y wobr am y ffilm orau, gyda’r wobr am y cyfarwyddwr gorau yn mynd i Richard Linklater, a’r actores gynorthwyol orau i Patricia Arquette.
Cafodd yr enillwyr eu cyhoeddi mewn seremoni arbennig yn y Tŷ Opera Brenhinol yn Llundain neithiwr.