Dakota Johnson yw 'Anastasia Steele' yn y ffilm
Mae cwmni sinema yn brolio eu bod eisoes wedi cael ordors am werth dros £1 miliwn o docynnau ar gyfer Fifty Shades of Grey, a hynny wythnos gyfan cyn i’r ffilm gael ei dangos.
Bydd y fersiwn weladwy o nofel erotig E.L. James yn cael ei dangos am y tro cyntaf wythnos i heddiw.
Dywedodd llefarydd ar ran Vue Entertainment International eu bod wedi gwerthu dros £1.3 miliwn o docynnau rhag blaen ar gyfer y ffilm fydd yn cael ei dangos ar benwythnos San Ffolant.
Yn gynharach yn yr wythnos fe gafodd y ffilm ei phasio gan y sensor heb unrhyw ofynion i addasu’r cynnwys – ond bydd gofyn bod yn 18 oed i’w gwylio.
Ffenomenen
Yn ôl adroddiadau mae’r tri llyfr yn y gyfres Fifty Shades… gan E.L. James wedi gwerthu dros 100 miliwn o gopïau ledled y byd, ac wedi eu cyfieithu i fwy na 50 o ieithoedd.