Harper Lee
Bydd dilyniant i’r nofel enwog To Kill A Mockingbird yn cael ei gyhoeddi yn ddiweddarach eleni.

Teitl y nofel, gan yr awdur Harper Lee, yw Go Set A Watchman a gafodd ei ysgrifennwyd yn wreiddiol cyn To Kill A Mockingbird.

Fodd bynnag, cafodd ei wrthod gan gyhoeddwyr Harper Lee ar y pryd er iddyn nhw ei harwain hi ar y trywydd wnaeth arwain at y nofel a ddaeth a hi i amlygrwydd.

Mae To Kill A Mockingbird wedi ei osod o amgylch achos llys mewn tref sydd wedi ei rhannu gan hiliaeth yn Alabama yn ne’r Unol Daleithiau. Mae wedi gwerthu mwy na 40 miliwn o gopïau ers ei gyhoeddi yn 1960.

Bydd y nofel newydd yn dilyn y prif gymeriad, Scout, sydd nawr yn oedolyn wrth iddi ddychwelyd adref i Alabama o Efrog Newydd i ymweld â’i thad.

Meddai Harper Lee, sy’n 88 mlwydd oed: “Yng nghanol y 1950au, nes i gwblhau nofel o’r enw Go Set A Watchman.

“Mae’n cynnwys cymeriad o’r enw Scout, sy’n oedolyn, ac ro’n i’n meddwl ei fod yn ymdrech eithaf parchus.

“Fe wnaeth y golygydd fy mherswadio i ysgrifennu nofel yn seiliedig ar blentyndod Scout.

“Gan fy mod i newydd ddechrau ysgrifennu fe wnes i fel roedd hi wedi gofyn i mi.

“Doeddwn i ddim yn sylweddoli fod y nofel (Go Set A Watchman) wedi goroesi… Rydw i wedi synnu y bydd nawr yn cael ei chyhoeddi ar ôl yr holl flynyddoedd.”

Bydd Go Set A Watchman yn cael ei gyhoeddi ar 14 Gorffennaf gan William Heinemann, sef cyhoeddwyr gwreiddiol To Kill a Mockingbird yn y DU.