Plasty Llancaiach Fawr, ger Nelson
Mae’r Urdd wedi cyhoeddi bod cynnydd yn y galw am wersi Cymraeg yng Nghaerffili cyn i’r Eisteddfod ddod i’r ardal ar ddiwedd mis Mai.

Un gweithlu sydd wedi mynegi diddordeb mewn gwneud defnydd o’r gwersi Cymraeg yw staff plasty Llancaiach Fawr ger Nelson – fydd yn rhan o faes yr Eisteddfod – meddai’r mudiad.

Dywedodd Rheolwr Llancaiach Fawr, Diane Walker, bod nifer o’r gweithwyr wedi bod yn dilyn cwrs mynediad i ddysgu Cymraeg gyda Chanolfan Cymraeg i Oedolion Gwent ers mis Medi.

“Er fy mod wedi fy ngeni a magu yn Lloegr, mae fy mam yn Gymraes Gymraeg o Abergele a dwi wastad wedi bod eisiau dysgu’r Gymraeg,” meddai.

“Mae tri ohonom o Lancaiach Fawr wedi cychwyn ar ein taith chwe blynedd i fod yn rhugl yn y Gymraeg a bydd ugain o aelodau eraill o staff yn cychwyn cwrs blasu ddiwedd mis Chwefror, fel y bydd ganddyn nhw Gymraeg sylfaenol i groesawu ymwelwyr yr Urdd i’n safle hanesyddol.”

Anogaeth i bobol leol

Ychwanegodd Anwen Rees sy’n Swyddog Hyfforddiant a Hyrwyddo Cydraddoldeb gyda Chyngor Caerffili: “Mae cwrs mynediad ychwanegol wedi ei gynnal mis Medi gan fod cynnydd yn y galw am wersi Cymraeg yn yr ardal, sydd yn cynnwys staff Llancaiach Fawr –  rwyf yn ymwybodol hefyd fod criw o Sefydliad y Glowyr Coed Duon yn awyddus i ddysgu Cymraeg yn barod am yr Eisteddfod.

“Mae’n gyfle gwych i ni hyrwyddo ac annog pobol leol i ddysgu Cymraeg, ac mae’r awydd i ddysgu a’r brwdfrydedd yna.

“Byddwn yn cychwyn cwrs blasu i fwy o staff Llancaiach Fawr cyn bo hir, fydd yn dysgu brawddegau syml iddynt ond hefyd yn cyflwyno hanes y Gymraeg a’r diwylliant.

Bydd Eisteddfod yr Urdd Caerffili a’r Cylch yn cael ei chynnal ddiwedd mis Mai eleni ar safle Llancaiach Fawr ger Nelson.