Taron Egerton
Mae seren ffilm Kingsman: The Secret Service wedi dweud y byddai’n ystyried rhan actio yn y Gymraeg yn y dyfodol petai’r cyfle yn codi.
Ar hyn o bryd mae modd gweld Taron Egerton ochr yn ochr â Colin Firth, Michael Caine a Samuel L Jackson yn y ffilm ysbïo newydd sydd yn y sinemâu.
Ac er bod y llanc 25 oed o Aberystwyth yn serennu mewn ffilm fawr Hollywood ar hyn o bryd, mae’n cyfaddef y gallai droi ei law at brosiect agosach i gartref yn y dyfodol.
“Bydden i’n eitha’ hoffi gwneud rhywbeth, os bydden i’n teimlo fel bod fi’n gallu ei wneud e a bod fy Nghymraeg i ddigon da,” meddai’r actor wrth Golwg.
“Bydden i wrth fy modd yn gwneud tipyn o theatr yn y Gymraeg, fi’n meddwl bydde hynny’n tipyn o hwyl.
“Mae e’n sicr yn rhywbeth bydden i’n ystyried, ond fi ddim wedi cael cynigion eto!”
Gwella ar ei Gymraeg
Dechreuodd Taron Egerton ei yrfa actio mewn cynyrchiadau theatr tra’n fyfyriwr yng ngholeg RADA yn Llundain, cyn chwarae rhan yn nrama Sky1 The Smoke.
Mae eisoes wedi ymddangos yn y ffilm Testament Of Youth eleni a’r flwyddyn nesaf fe fydd yn chwarae rhan Eddie’r Eryr mewn ffilm am ymdrechion y sgïwr naid yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf.
Er ei fod yn byw yn Llundain bellach mae’n dychwelyd i Aberystwyth yn aml i weld ei deulu a’i ffrindiau, gan ddisgrifio’r lle fel ‘canol ei fydysawd’.
Mae’n golygu ei fod yn ddigon rhugl yn ei Gymraeg o hyd – ond mae’r actor yn cyfaddef y byddai’n rhaid iddo wella ar ei iaith petai eisiau chwarae rhan mewn cynhyrchiad Cymraeg.
“Pan fi gartref [yn Aber] mae e’n dod nôl i fi, ond dyw e ddim mor dda ag oedd e achos doedd gennai ddim rhieni oedd yn siarad Cymraeg,” esboniodd Taron Egerton.
“Nes i ddysgu fe i gyd pan ro’n i’n fach [yn yr ysgol] yn Llanfairpwll ac wedyn yn Penglais – fi’n meddwl ces i Lefel 5 yn y TASAU.
“Mae e wedi mynd yn waeth achos bod fi ddim wedi cael y cyfle i ddefnyddio fe, ond mae hwnna’n rhywbeth fi eisiau gwella unwaith fi’n cael y cyfle.”
Mae’r cyfweliad llawn gyda Taron Egerton yn trafod ei ran yn Kingsman, rhannu set â’r sêr, a’i fywyd nôl yng Nghymru, yn y rhifyn cyfredol o Golwg.