Fe fydd y gantores o Jamaica, Grace Jones, yn un o’r artistiaid fydd yn meddiannu prif lwyfan Gŵyl Rhif 6 ym Mhortmeirion eleni.
Cyhoeddodd y trefnwyr heddiw y bydd Belle & Sebastian, Young Fathers a Kate Tempest hefyd yn perfformio yn yr ŵyl sydd wedi sefydlu ei hun fel yn o brif wyliau bach Prydain erbyn hyn.
Mae Gŵyl Rhif 6 yn cael ei chynnal ym Mhenrhyndeudraeth ger Porthmadog am y pedwerydd tro, ar ôl llwyddo i ddenu bron i 14,000 o bobol y noson y llynedd.
Eleni, bydd llwyfan Cymraeg yno unwaith eto yn ogystal â pherfformiadau yng nghoedwig Portmeirion ac mewn lleoliadau gwahanol yn y pentref Eidalaidd.
Mae artistiaid eraill fydd yn perfformio yn cynnwys Rae Morris, Shura, Stornoway, The Bohicas a Fryars.
Mwy i ddod
“Mae’r don gyntaf o artistiaid yn gryfach nag erioed ac mae llawer mwy i ddod gan gynnwys trydydd prif artist,” meddai cyfarwyddwr yr Ŵyl, Luke Huxham.
“Mae gennym lawer mwy i’w gyhoeddi ar ochr diwylliant, celfyddydau a bwyd sy’n rhannau fwyfwy pwysig o brofiad Gŵyl Rhif 6, gan gynnwys ambell syrpreis – rwy’n credu y gallwn ni ddweud mai hon fydd yr ŵyl orau eto.”
Fe fydd yr ŵyl, sy’n cael ei chynnal ar 3, 4 a 5 Medi, yn cystadlu am wobr yr Ŵyl Fechan Orau gan gylchgrawn roc NME unwaith eto eleni.
Green Man
Ac mae Gŵyl Green Man, sy’n cael ei chynnal ger Crug Hywel ym Mhowys, hefyd wedi cyhoeddi’r artistiaid cyntaf fydd yn chwarae yn yr ŵyl eleni.
Ymysg yr artistiaid fydd yn chwarae ar benwythnos 20-23 Awst ym Mharc Glan Wysg mae St Vincent, Hot Chip, Goat, Calexio a The Staves.
Mae tocynnau Green Man hefyd wedi mynd ar werth heddiw ac yn costio £165 am y penwythnos.