Yn ddiweddar, mae drama newydd wedi dechrau ar y BBC o’r enw ‘Our Zoo’ sy’n seiliedig ar stori wir am ddechreuad y sŵ a adnabyddir heddiw fel Sŵ Caer.

Os ydych chi’n hoff o ddrama deuluol debyg i ‘Call the Midwife’, yna gwyliwch y rhaglen hon. Dilyna’r ddrama drywydd dyn teuluol yn y 1930au sy’n ceisio agor sŵ.

Penderfyna’r dyn (George Mottershead) brynu maenordy, gyda help ei rieni sy’n gwerthu eu siop, gyda’r bwriad iddo fod yn lleoliad i’r sŵ.

Dechreua’r ddrama gyda Mottershead yn mabwysiadu mwnci a pharot nad oedd wedi cael eu casglu o’r dociau ar ôl i bobl eu prynu. Nes ymlaen mae’n dod nôl o ymweliad i’r syrcas gyda chamel, ac felly mae’r syniad yn datblygu’n ei feddwl o agor sŵ heb gewyll cyfyngedig i’r anifeiliaid.

Drwy gydol y ddwy bennod gyntaf gwelwn Mottershead yn brwydro yn erbyn aelodau o’i deulu a’i gymuned sy’n gwrthwynebu’r syniad. Mae’n argoeli y bydd y penodau nesaf yn llawn gwrthdaro rhwng y gymuned a’r teulu, ac y bydd yna lu o broblemau ariannol yn codi wrth iddynt geisio agor y sŵ a sicrhau llwyddiant.

Mae gan Mottershead ddwy ferch, June sydd oddeutu deng mlwydd oed a Muriel sydd yn 16 mlwydd oed.

Dengys June frwdfrydedd am y sŵ gyda’i hanwyldeb at anifeiliaid yn amlwg. Mae Muriel ar y llaw arall yn bod yn lletchwith wrth iddi fod yn yr oedran lle gwrthwynebai bob dim ac mae’n llwyr yn erbyn y syniad o adeiladu sŵ.

Tebyg yw agwedd mam Mottershead am y sŵ wrth iddi orfod gwerthu ei siop i helpu’n ariannol gan mai dyna yw dymuniad ei gŵr.

Teimladau cymysg sydd gan wraig George Mottershead am y fenter ond penderfyna gefnogi ei gŵr er gwaethaf holl wrthwynebiad pobl y gymuned a rhai o aelodau ei theulu.

Ar y cyfan mae’r ddrama hon yn ddrama deuluol hoffus a thwymgalon sy’n llwyddo i ddenu cynulleidfa o bob oedran. Dwi’n edrych ymlaen yn fawr i weld be fydd yn digwydd nesaf wrth i’r tensiwn rhwng y teulu a’r gymuned i gynyddu.

Marc: 9/10