Cengiz Dervis, sy’n chwarae rhan y prif gymeriad John West
Sophie Wiggins o gwmni Tanabi sy’n datgelu rhai o’i phrofiadau fel Cynorthwyydd Cynhyrchu Fideo ar set y ffilm ‘By Any Name’, a gafodd ei saethu yn Abertawe ac Aberhonddu dros yr wythnosau diwethaf
Fel myfyrwraig Llenyddiaeth Saesneg ac Astudiaethau’r Cyfryngau ym Mhrifysgol Abertawe , roedd cael bod ar set ‘By Any Name’ yn un o brofiadau mwyaf anhygoel fy mywyd.
Mae ‘By Any Name’ yn ffilm ias a chyffro sy’n seiliedig ar y nofel o’r un enw gan Katherine John. Trwy hap a damwain y ces i fod yn gysylltiedig â’r ffilm, ac rwy mor falch.
Roedd cael gwylio’r dynion styntiau yn cydlynu golygfeydd ymladd gyda’r actorion, a gweld yr artist colur yn creu ‘prosthetics’ a chlwyfau yn ffantastig! Roeddwn i am gael bod yn rhan o’r broses greadigol.
Roedd cael gwylio a helpu i greu’r ffilm yn fraint o’r mwya’. Ro’n i wrth fy modd yn gwylio’r artist coluro’n creu clwyfau a llygaid duon gan ddefnyddio gwaed ffug a thechnegau eraill.
Ffilmio yn Ysbyty Hill House yn Abertawe
Roedd y cast a’r criw mor gyfeillgar a diymhongar ac fe ddaeth pawb ymlaen yn dda ar unwaith, ac roedden nhw’n hapus i adael i fi ddysgu oddi wrthyn nhw.
Fe ddysgais i sut mae goleuo’n effeithio ar bob golygfa a sefyllfa, a pha mor hanfodol yw hi i dreulio amser yn creu’r siot berffaith.
Fe welais i’r actorion yn ail-greu’r golygfeydd drosodd a throsodd gyda’r un brwdfrydedd â’r tri chynnig cyntaf, a gweld hefyd sut mae’r actorion yn cymryd at eu cymeriadau, a sut maen nhw’n paratoi ar gyfer y rhan.
Fe ges i ddeall hefyd faint o waith trefnu sy’n mynd i mewn i brosiect fel hwn, o’r arlwyo i daflenni trefn, rhifau’r siot, y sgriptio a.y.b. Dyna sy’n creu prosiect cyflawn.
Tu ôl i’r llenni
Ro’n i’n ddigon ffodus i dderbyn y dasg o ffilmio sut cafodd y ffilm ei chreu, sef y deunydd ‘tu ôl i’r llenni’.
Stuart McNeill, y dyn ‘stynts’ a Sophie Wiggins, y cynorthwyydd cynhyrchu fideo
Roedd hyn yn golygu cyfweld â’r cast a’r criw, dangos sut roedd y golygfeydd yn cael eu sefydlu a cheisio dal awyrgylch y set ar gamera.
Fe wnes i hefyd gyfweld â Ctechi Ctamehoba, cyflwynydd o Fwlgaria sy’n hyrwyddo’r ffilm yn y wlad honno. Roedd cael mynd o gwmpas y set gyda ’nghamera yn llawer iawn o hwyl ac mae gyda fi ddeunydd da iawn.
Yn bennaf oll, rwy wedi dysgu mai hanfod y broses o greu ffilm yw gwaith tîm ac ymroddiad, wrth i bawb weithio tuag at yr un nod.
Cefais amser gwych ar y set, ac allai ddim aros tan y tro nesa i fi weithio ar ffilm arall. Rwy wrthi nawr yn golygu nifer o fideos hyrwyddo ar gyfer y ffilm, ac mae rhai ohonyn nhw wedi mynd ar Youtube yn barod.