Sorcha Williams
Mae cyn-fyfyriwr Celf a Dylunio o Goleg Ceredigion wedi llwyddo i sicrhau swydd gydag un o ffigyrau mwyaf blaenllaw’r byd yn y maes celf.

Mae Sorcha Williams, sydd newydd gwblhau ei gradd Meistr mewn Celfyddyd Gain yn Ysgol Gelf Slade, Llundain bellach yn cychwyn ar yrfa fel cynorthwyydd peintio i’r artist clodfawr Damien Hirst.

Gwnaeth Damien Hirst, sydd yn entrepreneur, artist ac yn gasglwr celf, enw iddo’i hun yng nghanol y nawdegau fel rhan o’r YBAs (Arlunwyr Prydeinig Ifanc). Mae bellach yn un o’r ffigurau mwyaf blaenllaw yn y byd celf ac mae’n debyg mai fe yw’r artist cyfoethocaf sy’n byw yn y Deyrnas Unedig.

Dywedodd Sorcha Williams wrth golwg360: “Roeddwn yn falch o gael cynnig y swydd a’r cyfle i ddefnyddio’r sgiliau a ddysgais yn y coleg a’r brifysgol.

“Rydw i’n edrych ymlaen at weithio mewn stiwdio brysur i artist cyfoes llwyddiannus ac at y persbectif newydd y bydd hyn yn rhoi i mi i fyfyrio ar fy ngwaith celf fy hun.”

Meddai Julian Ruddock, tiwtor Celf a Dylunio yng Ngholeg Ceredigion: “Rwyf wrth fy modd gyda llwyddiant Sorcha ac mae’n wych ei bod yn parhau i ragori yn ei gyrfa.

“Mae hwn yn gyfle gwych iddi weithio gyda rhywun mor enwog a chlodfawr â Damien Hirst.”