Howell Evans yn chwarae Daddy yn y gyfres Stella
Mae teyrngedau wedi cael eu rhoi i’r actor Howell Evans fu farw’n 86 oed.
Roedd yn adnabyddus am chwarae rhan ‘Daddy’ yn y gyfres boblogaidd ‘Stella’, gafodd ei hysgrifennu gan Ruth Jones.
Cafodd Evans ei eni ym Maesteg yn 1928 ac roedd yn adnabyddus am ei ran yn y ffilm ‘The Englishman Who Went Up a Hill But Came Down a Mountain’.
Ymddangosodd mewn llu o gyfresi teledu ar hyd y blynyddoedd, gan gynnwys ‘How Green Was My Valley’, ‘Dr Finlay’s Casebook’, ‘Open All Hours’, ‘Little Britain’, ‘Casualty’, ‘Doctors’ a ‘Benidorm’.
Roedd yn briod â Patricia Kane, yr actores sy’n chwarae rhan Mrs Collins yn ‘Stella’.
Wrth dalu teyrnged iddo, dywedodd Ruth Jones ar dudalen Facebook y gyfres ‘Stella’: “Rwy’n drist iawn i ddweud bod Howell Evans, oedd wedi chwarae Daddy mor wych, wedi marw. Roedd ganddo fe gymaint o ddawn fel nad oedd angen iddo ddweud gair…”