Llun gwneud o adeilad Pontio ym Mangor
Yn dilyn y cyhoeddiad yr wythnos diwethaf ynglŷn â’r oedi cyn agor theatr Pontio, mae Prifysgol Bangor wedi cyhoeddi na fydd cynhyrchiad yn cael ei lwyfannu yn yr adeilad tan Hydref 15 ar y cynharaf.

Oedi hefo’r gwaith adeiladu sydd ar fai, yn ôl y brifysgol.

Nid yw’r gyfres o weithgareddau agoriadol rhwng y 15 a’r 19 o Hydref – sy’n cynnwys gala gyda Bryn Terfel – wedi eu hail drefnu eto, ond fe ddywedodd y brifysgol bod ganddi bryderon na fydd yr adeilad yn barod mewn pryd.

Cyhoeddwyd yr wythnos diwethaf fod rhaid gohirio cynhyrchiad cyntaf y theatr, sef ‘Chwalfa’ gan Theatr Genedlaethol Cymru, oedd i fod i gael ei ddangos ar 17 Medi.

Yn wreiddiol, roedd bwriad i agor canolfan Pontio yn 2012.

Siom

Dywedodd yr Athro Jerry Hunter, cadeirydd Bwrdd Ymgynghorol Celfyddydol Pontio a Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Bangor:

“Rwyf yn bryderus fod yr oedi parhaol yma yn ein gorfodi i ohirio perfformiadau er mawr siom i ni i gyd. Y bwriad oedd agor yr adeilad mewn rhannau, gyda’r rhan gyntaf i fod yn barod erbyn Awst 22, fodd bynnag rydym yn parhau i aros i Miller gyflawni’r gwaith yma.

“Bydd pawb sydd wedi prynu tocyn ar gyfer perfformiadau hyd at 14 Hydref yn derbyn ad-daliad llawn.

“Rydym fodd bynnag yn gobeithio ail drefnu cynhyrchiad Theatr Bara Caws, Garw, yn ystod mis Hydref.”

Gwersi

Ychwanegodd: “Hoffwn ategu’r hyn ddywedwyd yr wythnos ddiwethaf, sef bod gwersi i’w dysgu o hyn, ond ein blaenoriaeth ar hyn o bryd yw gweithio gyda’r contractwr i gwblhau’r adeilad, a darparu rhaglen gelfyddydol agoriadol o ansawdd uchel.

“Cyn gynted ag y bydd gennym raglen ddiwygiedig byddwn yn gwneud cyhoeddiad pellach.”