Rhai o'r criw yn gynharach yn yr wythnos
Blog olaf Casia William cyn y ffeinal heno …

Diwrnod Saith

Wel dyma ni, y diwrnod olaf, wedi wythnos o wersi a gweithgareddau tybed sut mae’r dysgwyr a’r tiwtoriaid yn teimlo?

“Ar y ffordd yma bore ‘ma nes i stopio mewn lay-by i ’sgwennu penillion bach iddyn nhw,” meddai Nia am y dysgwyr.

“Ac ar ôl i mi ei darllen nhw yn y wers bore ’ma, y wers olaf, mi gododd Nev ar ei draed i ddweud gymaint mae o wedi mwynhau. O wir. Roedd Behnaz a Siân yn crio a ro’n i’n trio cadw’r dagrau yn ôl.”

Yr un ydi’r stori bob blwyddyn ar Cariad@Iaith, erbyn y diwedd mae’r dagrau yn llifo, a does dim syndod mewn gwirionedd oherwydd wrth fod yma mae rhywun yn gweld cymaint o siwrna ydi hi.

Mae’n wythnos mewn lle cwbl newydd gyda phobl newydd, yn dysgu iaith newydd ac yn gwneud gweithgareddau am y tro cyntaf.

Erbyn y diwrnod olaf mae pawb wedi ymlâdd yn gorfforol ac yn feddyliol, ond hefyd yn teimlo eu bod nhw wedi herio eu hunain ac wedi dysgu pethau newydd am eu hunain.

Sylwebu Aled Sam

Un person sydd wedi bod yn cuddio mewn bwthyn tywyll trwy’r wythnos, ond sy’n hollbresennol ar Cariad@Iaith ydi Aled Sam.

“Dyma’r bedwaredd flynedd i mi wneud y troslais a dwi’n dal i fwynhau.” Meddai’r cyflwynydd a’r sylwebydd ffraeth. “Er bod y gwersi a’r gweithgareddau yn tueddu i fod yn debyg iawn bob blwyddyn mae’r criw yn newid ac mae gyda nhw ei quirks ei hunain.

“Maen nhw mor annwyl eleni, maen nhw’i gyd yn annwyl, ond maen nhw’n wahanol iawn eleni wrth gwrs, mae gennym ni un sydd ddim wedi cymryd rhan o gwbl yn y ffordd arferol, sef Neville, ac eto mae e wedi cael lot mas o’r rhaglen wedwn i.

“Ac mae Jenna hefyd wedi gwrthod gwneud ambell i beth. Wi’n credu mai dyma’r tro cynta i bobl wrthod cymryd rhan ond mae hynny’n brofiad newydd yn ei hunain!”

Felly pwy fydd enillydd Cariad@Iaith 2014?

Mae’r criw yn mynd fyny’r allt i dafarn y Fic i bleidleisio prynhawn heddiw felly bydd rhaid i ni aros tan heno i ddarganfod pwy yw’r enillydd, ond mae Neville yn dweud ei fod yn teimlo fel petai wedi ennill yn barod.

“Dwi wedi ennill yn barod”

“I won’t watch it but I feel like I’ve already won, because I’ve stayed longer than I thought I would, I’ve seen it through,” meddai cyn gôl-geidwad Cymru sydd bellach yn 55 oed.

“I did it, and it was better than I thought. I look at Nia and Ioan, and they spend all day teaching and then they get their script and they have to present in the evening, and that takes some bloody doing.

“So I’ve decided that Ioan and Nia need to go to the Ukraine, and they need to go on one side each, and everyone would be so happy they would forget what they were fighting about in the first place.”

Ac mae’r dywysoges o’r cymoedd hefyd yn teimlo’r un mor frwdfrydig am ei phrofiad yn y Nant.

“It was literally one of the most amazing experiences for me, I don’t regret it at all I’d love to go back and do it all over again!” meddai Jenna wrth wenu o glust i glust.

“I’m gutted to be home, the whole experience was way better than I expected.  I never thought I’d enjoy it as much as I did. I’m definitely going to continue to learn Welsh, it’s given me a new drive to become fluent and hopefully as soon as possible.”

Hmm, cyfres o’r enw Y Cymoedd?!

Mae wedi bod yn wythnos a hanner ac mae wedi bod yn galonogol iawn gwylio’r wyth yn ymroi yn llwyr i’r profiad dysgu ac ymfalchïo yn eu Cymreictod. Cariad@Iaith, mae wedi bod yn bleser.

Gwyliwch ffeinal Cariad@Iaith:Love4Language heno ar S4C am 8.00pm.