Jenna ddim yn mwynhau'r dasg goginio
Casia William sydd â’r diweddaraf o Nant Gwrtheyrn cyn rhaglen heno …
Diwrnod Pedwar
Mae’r cymylau duon wedi cilio ac mae’r haul yn disgleirio ar y Nant ac ar y dysgwyr bore ‘ma. Ond ydyn nhw yn disgleirio yn y dosbarth? Mi es i i holi un o’r bobl dalentog ac amyneddgar sydd wedi bod yn brysur yn eu dysgu, Mr Ioan Talfryn (neu Mr T fel mae Behnaz yn hoff o’i alw).
Sgwrs gyda’r athro
“Dwi’n mwynhau gyda’r dysgwyr hyd yn hyn. Maen nhw’n griw da, tydyn nhw ddim yn ecsgliwsif o gwbl maen nhw’n cymysgu gyda phawb,” meddai’r gŵr o Dreforus sydd bellach yn byw yn Waunfawr. Born again Gog.
“Dwi wedi bod yn dysgu lot – gwers fore echdoe, prynhawn echdoe a bore ddoe, ond dwi’n mwynhau gwneud hynny achos mae’n gyfle i ddod i’w hadnabod nhw, i weld faint o Gymraeg sydd ganddyn nhw a sut maen nhw’n perfformio yn y dosbarth.
“Does dim gymaint o Gymraeg gan y rhain ac oedd gan griw llynedd (pobl arferol oedd y rheiny, fatha chi a fi), felly mae ‘na ychydig bach o amrywiaeth. Mae gan un neu ddau lot o Gymraeg, ac mae rhai ohonyn nhw efo nesa peth i ddim, felly dwi’n gorfod addasu.
Bocs o driciau
“Ti ddim yn addasu’r bobl i ffitio’r cwrs, ti’n addasu’r cwrs i ffitio’r bobl. Mae gen i ryw focs o driciau o bethau fedrai wneud efo’r dysgwyr, felly mae dewisiadau gen i wrth gefn. Wrth ddysgu ti yn gorfod gorbaratoi!
“Mae gan ambell un wedi cael eu tanio ac maen nhw’n taflu eu hunain i mewn iddo fo – ‘o ni’n meddwl bod John Owen-Jones am gael trawiad ar y galon pan oedden ni’n chwarae bingo!
“Wedyn mae rhywun fel Suzanne, mae ganddi lot o Gymraeg, a nes i lwyddo i gael sgwrs gyfan gwbl yn Gymraeg gyda hi ddoe.
“Y peth yw gyda’r dull yma mae’n cymryd amser iddo fe gicio mewn, mae fel plannu hedyn, tydi’r planhigyn ddim yn neidio allan. Hanner y tric ydi tynnu eu sylw nhw o’r dysgu mewn ffordd. Mae’r geiriau yn sleifio mewn pam maen nhw wrthi’n taflu tedis!”
Gwaed yn dewach na dŵr…
Wedi’r wers mae’r dysgwyr yn rhannu’n ddau grŵp eto, gydag un criw yn trochi mewn dŵr a’r criw arall yn trochi mewn gwaed. Gwaed? Ia wir. Gwaed. Yng nghwmni’r cogydd Anthony Evans (‘Da chi’n ei gofio fo ar Stwffio? Ant oedd y boi oedd yn dweud ‘Bois Bach!’ bob munud) mae Suzanne, Sam, Siân a Jenna fod i baratoi colomennod.
Tra bod Jenna yn cyfogi ac yn crio, mae Suzanne yn camu i’r adwy ac yn torchi ei llewys. Efallai bod yr holl flynyddoedd ar Casualty wedi bod o gymorth.
Gwyliwch Cariad@Iaith:Love4Language heno ar S4C, yn dechrau am 8.25pm ac yn parhau am 9.30pm ar ôl y Newyddion.
Gallwch hefyd ddarllen blogiau Casia William o ddydd Llun a dydd Mawrth.