Neil Brand
Hannah Roberts sydd yn taflu goleuni ar fyd y gerddoriaeth fud ac un o’i sêr …
Mae cerddoriaeth o’n cwmpas, mwy falle nag ydym yn sylweddoli gan gynnwys siopau, ffilmiau, a hysbysebion teledu.
Felly mae cerddoriaeth wedi dod yn rhan ein bywyd yn isganfyddol. Heddiw, hoffwn i drafod pa mor eglur y gall cerddoriaeth fod yng nghyd-destun ffilmiau mud heb wrthdyniadau ein bywydau bob dydd.
Sgil wahanol
Sawl mis yn ôl, es i i ddarlith am ffilmiau mud gyda Neil Brand, dyn sy’n adnabyddus yn y maes. Fel cyfansoddwr a chyfeilydd ffilmiau mud, fe oedd y dyn iawn i ddangos i gynulleidfa mor barod yr hud a lledrith wrth greu awyrgylch ble oedd y gerddoriaeth yn cael y gynulleidfa i ofyn am fwy.
Nid yw ffilmiau mud wedi marw, mae’n fyw – mae’n anffurfiol ond difyr serch hynny. Beth sy’n hudol am ffilmiau mud a’u cerddoriaeth na fydd dau brofiad o’r un ffilm yr un peth. Gan fod y cyfeilydd yn chwarae’n fyrfyfyr, mae’n newid bob tro. Bydd profiad y gerddoriaeth a hyd yn oed profiad o wylio’r ffilm yn newid hefyd wrth ymateb i anghenion y gynulleidfa.
Mae sgil yn gwneud y math o waith yma. Mae angen dysgu sut i ddarllen ffilm a dilyn y stori, wrth ddarparu cerddoriaeth sy’n briodol ar yr un pryd. Yn lwcus, nid yw’r sgil o adrodd stori yn newid.
Mae’r technegau yno i ddal cynulleidfa, ac er mwyn uno’r stori â cherddoriaeth mae’n rhaid defnyddio nodiau a marcwyr er enghraifft crescendos a thrawsgyweiriadau i helpu’r gynulleidfa gyda beth i’w feddwl a disgwyl.
Brand yn diddanu
Yn ystod y ddarlith, dangosodd Neil Brand ei feistrolaeth i chwarae’n fyrfyfyr. Gofynnodd e i’r gynulleidfa i’w helpu creu sgôr gan greu cerddoriaeth sy’n bodloni ar ddisgwyliadau’r gynulleidfa.
Wrth gwrs, nid oedd hyn mewn gwirionedd yn bosib oherwydd bod mwy nag un ateb i bob cwestiwn. Dim ond am bum munud y gwnaeth e ond roedd pawb yn y gynulleidfa eisiau mwy.
Roedd e’n codi pwynt diddorol ac yn bwysig. Gall distawrwydd fod yn lletchwith oni bai y dewisir i ddefnyddio distawrwydd am effaith.
Yng nghyd-destun ffilmiau mud, pe cymerwch chi gerddoriaeth i ffwrdd, dim ond distawrwydd a fydd, ond pan wneir yn iawn, gall distawrwydd fod yn hudol ac yn creu tensiwn pan fo angen. Gan ei fod yn gweithio gyda chelf sy’n symud, mae’n rhaid iddo lenwi bylchau gyda cherddoriaeth neu eu gadael gyda distawrwydd.
Mae cerddorion fel Neil Brand yn cyflwyno’r grefft hon fel rhywbeth syml. Ond mae’n cymryd oriau o ymarfer ac astudio cynulleidfaoedd a ffilmiau a’u symudiadau.
Mae Neil Brand yn defnyddio ei glustiau i chwarae cerddoriaeth, ac wrth gwrs mae dawn naturiol gyda fe i chwarae’n fyrfyfyr yn naturiol iawn ac mae’n ddigon profiadol i wybod pryd i fentro.
Mae cyflwyniad Neil wedi ymddangos yn Edinburgh Fringe Festival ac mae’n defnyddio clipiau o’r eiliadau mwyaf yn hanes sinema i ddarlunio ei yrfa a’r lle arbennig sydd i gerddoriaeth gyda ffilmiau mud.
Mae e wedi bod yn cyfeilio i ffilmiau mud am dros 25 mlynedd, gan berfformio’n rheolaidd yn y Theatr Ffilm Genedlaethol ac yn rhyngwladol mewn gwyliau ffilm. ‘Prif gyfeilydd y ffilmiau mud’, mae’n un o’r goreuon.
Dyma enghraifft o waith Brand yn cyfansoddi sgôr i fersiwn newydd o ffilm Alfred Hitchcock, ‘Blackmail’:
Gallwch ddarllen mwy gan Hannah ar ei blog,http://jazzysheepbleats.wordpress.com/, neu ei dilyn ar Twitter ar@Tweet_The_Bleat.