Dylan Thomas
Bydd myfyrwyr o Goleg Ceredigion ac Ysgol Gynradd Cei Newydd yn dod at ei gilydd i gymryd rhan mewn perfformiad sy’n seiliedig ar straeon lleol gan Dylan Thomas y prynhawn ‘ma.
Mae tua 40 o ddisgyblion a chynhyrchwyr yn rhan o ‘Cnwc y Glap’ (sy’n golygu cornel clecs) – a fydd yn cael ei berfformio am 2 o’r gloch ar safleoedd gwahanol yng Nghei Newydd.
Wedi ei ysbrydoli gan rai o raglenni radio’r bardd, mae’r gwaith yn darlunio hanesion Dylan Thomas am ei amser yng Nghei Newydd rhwng 1944 a 1945.
Mae’n rhan o ddathliadau canmlwyddiant Dylan Thomas a hefyd yn nodi pen-blwydd y cwrs celfyddydau perfformio yng Ngholeg Ceredigion yn 20 oed.
Eglurodd Solveig Frykman-Lloyd, tiwtor y celfyddydau perfformio yng Ngholeg Ceredigion: “Mae hwn yn brosiect cyffrous a heriol i bawb sy’n ymwneud ag ef gan ei bod yn cael ei berfformio mewn nifer o safleoedd o amgylch strydoedd Cei Newydd.”