Daniel Johnson
Blogiwr Celfyddydau golwg360 Daniel Johnson fu’n pori drwy bigion y teledu dros y Nadolig, cyn cael ei ddiddanu gan Wil ac Aeron …

Ar Noswyl y Nadolig, dangosodd S4C sioe unigryw am 9 o’r gloch a gafodd ei chynhyrchu gan Gwmni Da, gan gymryd lle pwysig yn amserlen wylio’r sianel. Rhaglen ddogfen a ddilynodd Wil Hendreseifion ac Aeron Pugh, wrth iddynt adael gwyrddni Bro Ddyfi a mynd i weithio yng Ngogledd Norwy am rai dyddiau.

Cychwynnodd y rhaglen hefo’r ddau ddrygionus yn cyrraedd yn yr Arctig, a mynd o gwmpas yn prynu’r offer hanfodol i ffermio ceirw, fel cyllell ddrud a gafodd sylw arbennig gan y cyfarwyddwr, Mei Williams.

Beth ddaeth drosodd yn syth ydy’r cyfeillgarwch sydd gan Wil ac Aeron â’i gilydd. Dw i’n nabod y ddau ohonynt, ac mae’n braf gweld fod Williams wedi gadael i’r cyfeillgarwch hyn ddod i’r amlwg o’r cychwyn. Wil ydy’r un mwyaf naturiol o ddoniol o’r ddau, tra bod Aeron yn gadael ei gomedi ddod o geisio edrych ar ôl Wil.

Gwaith camera crefftus

Peth arall y llwyddodd Mei Williams, oedd hefyd yn ddyn camera ar y daith, ei drosglwyddo i’r gwylwyr ydy prydferthwch yr Arctig. Does na’m llawer o bethau harddach na gwacter gwyn y gogledd, ac mae Williams yn gwneud y mwyaf o hyn trwy ei waith camera.

Doedd Wil ac Aeron ddim ar eu pen eu hunain ar y daith, ar ôl iddynt gwrdd gyda theulu sydd yn ffermio ceirw bob blwyddyn. Fan hyn cafwyd un o uchafbwyntiau’r rhaglen, wrth i’r ddau Gymro geisio deall beth oedd pawb yn ei ddweud, cyn eu hateb yn Gymraeg.

Uchafbwynt amlwg arall oedd pan aeth Wil ac Aeron  i ŵyl gerddoriaeth cyn cwrdd â’r teulu. Yn ystod yr ŵyl, ymunodd Aeron mewn cân yn iaith y Sami, tra cafodd Wil waith fel PA’r brif gantores.

Dogfen ysgafn?

Mae ’na ddwy ffordd i edrych ar y sioe ‘ma mewn gwirionedd – fel sioe ddogfen, a sioe gomedi. Er nad yw’r sioe yn berffaith o bell ffordd, mae’n llwyddo i daro’r marc yn y ddau faes yn gyfforddus. Mae Williams wedi llwyddo hefo’r balans o wybodaeth helaeth a diddorol, hefo ffilm o Wil yn cwympo. Fel mae’n digwydd, mae Wil yn cwympo llawer o weithiau.

Tra bod cerddoriaeth yn cael ei defnyddio yn y cefndir drwy’r rhaglen, dydy hi byth yn cael ei defnyddio gormod. Yn wir, mae darn gorau’r rhaglen a cherddoriaeth yn digwydd tra mae Aeron yn cwrdd â’r ffermwr ceirw, ac yn ceisio ei gael i ganu Titw Tomos Las. Darnau fel hyn trwy gydol y rhaglen sydd yn rhoi calon i’r darn, ac yn tynnu’r gwylwyr i mewn.

I gloi, mae Cwmni Da wedi creu sioe ddoniol, ddiddorol a llawn hyder. Er mai hwn oedd  y sioe gyntaf i Wil ac Aeron wneud ar eu pen eu hunain, mae’r ddau’n hyderus o gwmpas y camera a nhw ydy’r prif reswm mae’r sioe wedi llwyddo.

Mae’n siom mai dim ond un sioe oedd hi, gan fod potensial yma i gael cyfres wythnosol yn dangos eu helyntion yn ffermio ceirw. Er nad yw hynny’n debygol o ddigwydd, mae gan S4C ddwy seren newydd o’r canolbarth ddylai gael mwy o raglenni yn fuan.

Marc: 8/10