I
Violas yn perfformio yng Ngŵyl Gwydir fis Medi.
fan Prys Edwards fu’n adolygu EP diweddaraf Violas yn rhifyn mis Rhagfyr o’r Selar.
Yn gyntaf, dyma un o weithiau celf gorau’r flwyddyn, ac mae’r diolch am hynny’n mynd i Owain Griffiths ac Aled ‘Arth’ Cummins. Crefftwyr.
Yn ei chyfarwydd, dyma gampwaith gan yr amryddawn a thalentog, Violas. Fe aiff nodyn cyntaf ‘Moelni’ a ni i fyd hollol wahanol, gydag atsain T.H. yn adrodd ei soned enwog yn ddechrau anhygoel i gasgliad anhygoel, yn ogystal â bod yn un o elfennau cryfaf yr EP.
Meddyliaf am y cyfanwaith hwn fel llyfr, un stori fawr, stori sy’n cynyddu mewn cynnwrf reit at y nodyn olaf.
Mae fel bod rhywbeth yn cael ei adeiladu, bob yn floc. Mae’r stori’n dechrau’n un hamddenol braf, ac yn gorffen yn eithaf trwm, ond mae diweddglo’r EP yn ein tywys allan o fyd celfyddydol y Violas yn gampweithiol.
Teimlaf ryw ias rewllyd, aeafol yn llifo trwyddi; sydd yn ychwanegu gwead at yr EP yn ei chyfanrwydd. Ar y llaw arall, daw elfen o gynhesrwydd trwodd mewn traciau fel ‘Keeping me from sleep’.
Datblygiad enfawr o’r EP gynt, Hwylio//Sailing, mae yma newid mawr yn y sŵn yn ogystal ag aeddfedrwydd yn Nos Somnia.
Dyma’n syml ddarn o gelf, corcar, ac fe gefais fwynhad yn gwrando arni. Edrych ymlaen at weld Violas yn rhyddhau mwy o gynnyrch yn y dyfodol!
8/10
Adolygiad o rifyn diweddaraf cylchgrawn Y Selar. Darllenwch fwy o adolygiadau, cyfweliadau ac erthyglau cerddoriaeth eraill yn y fersiwn ar-lein.