‘Stuntman’ ydy cynnyrch cyntaf Hud ers iddyn nhw fyrhau ei henw o ‘Creision Hud’…Miriam Elin Jones fu’n adolygu ar gyfer cylchgrawn Y  Selar.

Wedi blwyddyn brysur o ryddhau sengl bob mis yn 2011, fyddech chi’n meddwl y byddai Hud (Creision Hud gynt) yn gwneud y mwyaf o gael hoe fach – ond na, dyma nhw yn eu holau, wedi bwyta’r creision i gyd, ac yn barod i’n swyno gyda’u EP newydd sbon, Stuntman.

Mae’n rhwydd adnabod caneuon Hud o’u sain nodweddiadol, sy’n gyfuniad unigryw o roc-seicadelig trwm, a’r melodïau sy’n eich gorfodi i eistedd a gwrando ar yr hyn sydd ganddynt i ddweud – a does dim yn wahanol yn yr EP yma.

Maent yn dangos unwaith eto fod ganddynt y ddawn ryfeddol i ryddhau caneuon gwirioneddol dda, a gwneud hynny’n gyson.

Mae’r trac gyntaf, ‘Stuntman’, yn eich tynnu i stori’r stuntman, a’r riffs cyflym, chwim yn eich gwneud chi’n rhan o’i fywyd peryglus, cyffrous – ac mae’r modd y llwydda Hud i greu caneuon dychmygol, storïol eu naws yn fy rhyfeddu bob tro.

Mae ‘Tawela’r Cyfan’, fel byddech yn disgwyl, yn dipyn arafach na’r caneuon eraill, ond yr un mor hypnotig, a hefyd yn eich cyfareddu a’ch denu i wrando.

Efallai byddai hi wedi bod yn neis gweld newid cyfeiriad, neu rywbeth bach mwy arbrofol wrthynt, yn enwedig wedi’r newid enw, ond ar y cyfan, mae’r EP yn cynnwys chwe chân gref, a pham newid fformiwla sy’n amlwg yn gweithio?

8/10


Adolygiad o rifyn diweddaraf cylchgrawn Y Selar. Darllenwch fwy o adolygiadau, cyfweliadau ac erthyglau cerddoriaeth eraill yn y fersiwn ar-lein.