Clawr Ymbelydredd
Gwilym Dwyfor sydd wedi bod yn gwrando ar EP newydd Gwenno a ryddhawyd yn ddiweddar.
Does yna ddim prinder artistiaid unigol benywaidd sydd yn gallu chwarae gitâr a chanu caneuon bach neis yn y sin, ond efallai fod yna brinder genod sydd yn barod i wneud rhywbeth ychydig bach yn wahanol a dangos ychydig o agwedd yn eu miwsig. Que Gwenno.
Mae riffs syml y synths ar y trac agoriadol, ‘Ymbelydredd’ a’r trac olaf, ‘Despenser St’ yn eich hudo’n raddol ac yn priodi’n hyfryd gyda llais swynol di ymdrech Gwenno. Ac mae’r baseline ar ‘Ymbelydredd’ yn fy atgoffa o Llwybr Llaethog ar eu gorau.
Mae yna rywbeth amrwd iawn a budur am safon y recordio a’r cynhyrchu sy’n gweddu’n berffaith i deimlad dinesig y caneuon. Wedi’r cwbl, does dim angen sglein a pholish stiwdio recordio orau’r wlad wrth ganu am smygu yn y parc a cherdded heibio i buteiniaid ar lân yr afon.
A’r teimlad dinesig hwnnw sy’n clymu’r casgliad hwn at ei gilydd. Er mai dim ond EP pum trac sydd yma mae’n teimlo fel albwm gysyniadol bron a bod! Felly, dyma fi’n dweud am y tro cyntaf – dwi’n licio Ymbelydredd.
8/10
Adolygiad o rifyn diweddaraf cylchgrawn Y Selar. Darllenwch fwy o adolygiadau, cyfweliadau ac erthyglau cerddoriaeth eraill yn y fersiwn ar-lein. Mae’r rhifyn yma’n cynnwys cyfweliad gyda Gwenno ei hun.