Siop Palas Print yng Nghaernarfon
Mae siop yng Nghaernarfon ar restr siopau annibynnol gorau Prydain yn ôl papur newydd y Guardian.
Mae siop lyfrau Palas Print yn cael ei redeg gan Eirian James a Selwyn Jones a cafodd ei ddisgrifio fel lle sy’n “cyfuno llyfrau Saesneg a Chymraeg yn wych” yn ôl y papur.
Mae’r siop hefyd wedi ymddangos ar restr 50 Siop Lyfrau Annibynnol papur newydd yr Independent yn y gorffennol.
“Pan ddigwyddodd hynny, roedd pobl ar eu gwyliau yn yr ardal yn dod i chwilio amdanom ni. Ac mae cael ein crybwyll amser yma o’r flwyddyn, cyn y Nadolig, yn atgoffa pobl ein bod ni yma ac yn tynnu pobl newydd yma hefyd.”
Mae mwy a mwy o bobl yn prynu oddi ar we y dyddiau hyn ac er bod Palas Print yn cynnig gwasanaeth prynu ar y we, siop y stryd fawr yw hi yn y bôn meddai Eirian.
“Does gennym ni ddim yr adnoddau i fuddsoddi na hyrwyddo’r wefan i’r un graddau ag Amazon, er enghraifft. Ond mae pobl yn debygol o wneud ychydig o siopa ar lein ac ychydig ar y stryd fawr felly mae’n bwysig cynnig y gwasanaeth.
“Ond beth sy’n ddiddorol yw bod pobl wedi bod yn y siop dros yr wythnosau diwethaf yn dweud nad ydyn nhw am brynu dim oddi ar Amazon eleni oherwydd y newyddion amdanyn nhw’n peidio talu treth.”
‘Cefnogaeth y bobl leol’
Fe ddathlodd y siop ei deng mlwyddiant eleni ac i ddathlu roedd rhestr o’r deg llyfr sydd wedi gwerthu orau dros y blynyddoedd ar y wefan.
“Roedd y tri uchaf yn llyfrau oedd â chysylltiad lleol sy’n dangos pwysigrwydd hynny. Mae gan bobl ddiddordeb go iawn yn eu hardal eu hunain ac er ei bod hi’n neis cael ein henw yn y Guardian, cefnogaeth pobl sy’n byw a gweithio’n lleol sy’n bwysig.”