Y Rwtch
Adolygiad Owain Gruffudd o sengl gyntaf Y Rwtch a ryddhawyd ym mis Tachwedd.

‘Yr Hunllef Berffaith’ yw sengl gyntaf y band ifanc o Bontypridd. Mae’r gân yn enghraifft wych o’u set acwstig byw, gyda harmoneiddio hyfryd yn amlwg.

Mae’r trac yn awgrymu fod y band yn ychwanegiad cyffrous i’r sin acwstig yma yng Nghymru, sydd yn ôl pob golwg yn mynd o nerth i nerth yn ddiweddar.

Dwi’n teimlo fod hon yn ymdrech gyntaf dda iawn gan y band, a da hefyd yw gweld band yn dod o ardal Pontypridd a’r Cymoedd.

Wedi chwarae mewn nifer o wyliau cerddorol mawr y sin dros yr haf, fel gigs Cymdeithas yr Iaith yn yr Eisteddfod a Gŵyl Bedroc, mae sôn fod gan y ddeuawd EP ar y gweill, felly dwi’n edrych ymlaen at glywed honno.

Mae’r trac ar gael i’w lawrlwytho am ddim o’u tudalen ‘tumblr’.

7/10

Adolygiad o rifyn diweddaraf cylchgrawn Y Selar. Darllenwch fwy o adolygiadau, cyfweliadau ac erthyglau cerddoriaeth eraill yn y fersiwn ar-lein.