James Arthur enillodd nawfed gyfres y rhaglen dalent The X Factor neithiwr ond mae ’na bryderon am ddyfodol y rhaglen oherwydd gostyngiad sylweddol yn nifer y gwylwyr.
Fe gurodd y canwr 24 mlwydd oed, o Saltburn ger Middlesbrough, Jahmene Douglas i gipio’r teitl o flaen torf o 10,000 ym Manceinion neithiwr.
Ond fe gafodd y rhaglen ei ffigyrau gwylio gwaethaf ers saith mlynedd nos Sadwrn gan fethu curo ffigyrau gwylio Strictly Come Dancing.
Roedd 1.3 miliwn mwy o bobl yn gwylio’r rhaglen ddawnsio ar BBC 1 ac i wneud pethau’n waeth i gynhyrchwyr The X Factor, mae pythefnos arall nes bydd ffeinal Strictly yn cael ei darlledu.
Meddai llefarydd ar ran y The X Factor y byddai James Arthur yn “rhuthro” i ryddhau ei sengl gyntaf – ei fersiwn ef o Impossible gan y gantores Shontelle – fydd yn cael ei ryddhau erbyn dydd Mercher.
Bydd yr holl elw o werthiant y sengl yn mynd i elusen sy’n rhoi cymorth i blant â chyflyrau sy’n bygwth bywyd ac sy’n cyfyngu ar fywyd.
Dywedodd James Arthur mewn datganiad: “Rwy’ wrth fy modd mod i wedi ennill The X Factor. Dydw i ddim yn gwybod beth i’w ddweud!”
Ychwanegodd ei fod yn caru ei sengl gyntaf a’i fod “mor falch y bydd yr elw o’r sengl yn mynd i achos mor wych.”