Jenni Rivera
Mae rhai o’r byd cerddoriaeth ym Mecsico wedi bod yn rhoi teyrnged i’r gantores Jenni Rivera sydd, yn ôl pob tebyg, wedi marw mewn damwain awyren.

Dyw’r awdurdodau heb gadarnhau ei marwolaeth ond dywed ei theulu yn yr Unol Daleithiau nad oes unrhyw amheuaeth ei bod ar awyren oedd wedi taro yn erbyn mynydd yn Nuevo Leon yng ngogledd Mecsico ddoe.

Mae’n debyg bod pawb oedd ar fwrdd yr awyren wedi marw, meddai ei thad Pedro Rivera.

Mae cerddorion ym Mecsico wedi bod yn son am eu galar o glywed am farwolaeth y gantores, oedd yn fam i bump o blant.

Roedd Jenni Rivera wedi gwerthu 15 miliwn o recordiau ac roedd ei gonestrwydd am y trafferthion yn ei bywyd personol wedi ei gwneud yn hynod boblogaidd ym Mecsico a’r UDA.

Roedd Rivera wedi bod yn perfformio i filoedd mewn cyngerdd ym Monterrey nos Sadwrn ac yn hedfan yn ôl i Fecsico pan ddigwyddodd y ddamwain.