Yr wythnos hon, cyhoeddwyd cyfrol teithio Canllaw Bach Caerdydd gan Lowri Cooke.

Cafodd Lowri ei geni a’i magu yn y ddinas ac mae’r gyfrol, fel mae’r teitl yn ei awgrymu, yn stôr o wybodaeth am hanes, bwyd a chelf gwahanol ardaloedd y ddinas a llawer mwy.

Ar drothwy’r lawnsiad, aeth Lowri Cooke â Golwg360 o gwmpas rhai o’i hoff lefydd hi yn y ddinas…