Cafodd Asia a Marta fodd i fyw yn gig Hanner Cant y Gymdeithas…Cowbois Rhos Botwnnog gan odd cân y penwythynos, roedd Llwybr Llaethog yn rhy swnllyd, ac Elin Fflur yn siarad efo’i ffans ar ôl iddi berfformio…

I ddechrau, mae’n rhaid inni roi llongyfarchiadau i’r bobl a oedd yn gyfrifol am y digwyddiad. Roedd Hanner Cant yn ŵyl roeddem yn aros amdano ers misoedd hir, y cyfle unigryw (yn enwedig i ninnau, sy’n byw tu allan o Gymru) i weld cymaint o artistiaid mwyaf Cymru yn un lle. Felly, roeddem yn disgwyl rhywbeth bythgofiadwy, ac ni chawsom ein siomi!

Nos Wener

Un syndod ar yr ochr gorau oedd set Y Bandana. Llwyddon nhw i gadw mewn cysylltiad da â’r gynulleidfa a chreu awyrgylch dymunol gyda’u caneuon ysgafn a gydag alawon bachog a geiriau doniol.   Diolch i’r band o Gaernarfon fe ddysgom air newydd sbon hefyd, ‘geiban’!

Ar ôl sawl perfformiad addawol gan fandiau ifanc (fel Sen Segur a Colorama), roedd pawb yn disgwyl i set Meic Stevens fod yn uchafbwynt y noson gyntaf. Ac ni chafodd neb eu siomi.  Roedd y canwr ar ei orau, a phleser mawr oedd  gweld pobol o genhedlaethau gwahanol yn ymuno wrth ganu hits Meic.

Ond roedd mwy o gyffro i ddod y noson honno. Yn gyntaf roedd perfformiad Jakokoyak, wedi’i gefnogi gan lais hyfryd Gwenno Saunders. Roedd set Yr Ods yn braf iawn hefyd – llwyddon nhw dynnu sylw’r gynulleidfa a oedd yn ymuno â’r band ym mhob cân. Roeddent yn llawn o egni positif, ac roedd eu caneuon yn swnio’n dda yn fyw, yn enwedig ‘Fel Hyn Am Byth’. Wedyn daeth y “syrpreis” gyda Maffia Mr Huws yn siglo rhwng naws roc trwm yr wythdegau a chaneuon rhythmig gyda darnau gwych ar sacsoffon.

Dydd Sadwrn

Dechreuodd Dydd Sadwrn gyda nifer o berfformiadau gan fandiau ifanc, fel Y Diarth, Yr Angen, Sŵnami a Candelas. I gefnogwyr brwdfrydig (fel Asia) pleser oedd gwrando’n fyw ar y caneuon cyfarwydd (er nad oedd pob un ohonynt yn swnio cystal â’u fersiynau wedi’i recordio).

Syndod pleserus arall oedd set Jamie Bevan a’r Gweddillion. Creodd y band awyrgylch dymunol iawn fel nad oedd hi’n anodd dychmygu am sbel ein bod ni mewn tafarn ym Merthyr Tudful.

Un o’r setiau mwyaf anghyffredin oedd perfformiad Eilir Pierce yn y pafiliwn acwstig – gan gynnwys y canwr yn taflu recordiau at y bobol, sydd yn beth da, os ychydig yn beryglus. Ar ôl hynny, daeth mwy o berfformiadau llwyddiannus ar y llwyfan acwstig – Gwyneth Glyn yn swyno pobol gyda’i chaneuon rhamantus a digrif, a Fflur Dafydd yn cyflwyno set o ganeuon llonydd o’i halbwm newydd, wedi’u dilyn gan ddarnau mwy bywiog o albyms cynharach.

Nos Sadwrn

Gan i hanner ein tîm adael y Bont ar y bws cyhoeddus olaf, dim ond tystiolaeth Asia sydd ar ôl ynglŷn â digwyddiadau nos Sadwrn.

Mewn gwirionedd, treuliais y mwyafrif o nos Sadwrn yn y Neuadd Bentref (oherwydd dewis yr artistiaid ac awyrgylch y lle). Dechreuodd y prynhawn â pherfformiad The Gentle Good a oedd yn wirioneddol brydferth yn fy marn i. Llwyddodd Gareth Bonello i hudo ei gynulleidfa a chael ymateb brwd ar ôl pob cân.

Wedyn, perfformiodd un arall â’i gitâr yn unig, Lleuwen Steffan. Roedd ganddi bopeth: sgil chwarae, llais arbennig o dda, a geiriau doeth; fel yn ystod y perfformiad blaenorol, roedd y gynulleidfa wrth eu boddau.

Ar ôl hynny, daeth perfformiad un o’m hoff artistiaid Cymraeg, Elin Fflur. Cyn ei pherfformiad fe wnes i a fy ffrind, sy’n ffan mawr arall o Elin, ein set ddelfrydol o’i chaneuon. Ond dim ond sioe acwstig oedd hon, felly, a minnau’n ffan o’i chaneuon mwy bywiog, ni chlywais yr un o’n rhestr ni. Eto, mi wnes i ddarganfod dimensiwn newydd i’w chaneuon byw a hoffais y modd roedd Elin yn cydbwyso naws eithaf dramatig ei set â sylwadau cellweirus hunan-eironig. Yn bendant, un o uchafbwyntiau’r ŵyl i mi oedd y ffaith gallwn siarad â’r gantores am ychydig ar ôl ei pherfformiad.

Wedyn, es i yn ôl at brif lwyfan gig y ganrif i wrando ar synau dymunol Gwibdaith Hen Frân, ond, i’m syndod llwyr, pwy oedd wedi ymuno â nhw ond Dafydd Iwan ei hun. Roedd y cyd-berfformiad hwn yn arbennig o bwysig wrth ystyried Cymreictod (wrth gofio’r gân eiconig, ‘Yma O Hyd’), ond hefyd canwyd pethau mwy ysgafngalon.

Ar ddiwedd y nos, roeddwn yn mwynhau fy hun wrth wrando ar Bryn Fôn, band roc trymach Mattoidz, ac wedyn synau tawelach Cowbois Rhos Botwnnog. Mentraf ddweud mai eu cân “Ffarwel i Langyfelach Lon” oedd cân gorau’r digwyddiad, ac efallai cytunai’r rheiny a oedd wedi’u hymgolli ynddi cymaint â mi. Gorffennodd y gig efo set Llwybr Llaethog. Ond, er fy mod yn eithaf hoff o gyfansoddiadau’r band ar eu halbymau, roedd eu perfformiad Hanner Cant yn rhy swnllyd imi ei fwynhau.

Y peth gorau am y gig oedd y ffaith bod pawb yn cael hwyl gyda’i gilydd, ac roedd yn anarferol (i bobl dramor) weld artistiaid yn cymysgu â’r gynulleidfa wrth fynychu gigs eu ffrindiau neu eilunod. Ac yn ogystal â mwynhau cerddoriaeth ardderchog, roeddem yn hapus i glywed y Gymraeg yn cael ei defnyddio i’r fath raddau: am ddau ddiwrnod dim ond Cymraeg roeddem wedi clywed!