Dyma ail ran erthygl Owain Schiavone am y Sin Gerddoriaeth Gyfoes Gymraeg … mae’r rhan gyntaf fan hyn.
Tydi lleihad mewn gwerthiant cerddoriaeth ddim yn beth unigryw i Gymru – mae’r gallu i brynu cerddoriaeth mewn ffordd gwbl wahanol dros y we wedi newid y gêm yn gyfan gwbl. Y tu hwnt i’r sin Gymraeg, mae hyn wedi arwain at hwb a thwf yn y sin gerddoriaeth fyw. Mae pethau’n wahanol iawn gyda’r sin Gymraeg fyw sydd hefyd wedi dirywio’n ofnadwy.
Lle mae’r llwyfan?
Rydan ni wedi colli rhai o’r prif wyliau cerddorol mawr, ac er bod hynny wedi arwain at sefydlu rhai gwyliau bach newydd, ar y cyfan mae’n beth negyddol i’r sin. Mae gigs ar lawr gwlad yn brin iawn hefyd – y tu allan i Gaerdydd, heblaw am Dafarn y Gwachel ym Mhontardawe a gigs Dilwyn Llwyd yng Nghaernarfon, does ‘na ddim gigs Cymraeg rheolaidd gwerth sôn amdanyn nhw. Fedrai ddim cofio’r tro diwethaf i mi weld gig Cymraeg yn cael ei hyrwyddo yn Aberystwyth! Dwylo fyny, mae ‘na fai ar bobl fel fi (oedd yn arfer trefnu gigs rheolaidd) am beidio â mynd ati i drefnu gigs yn rhywle fel Aber. Tra bod problemau trefnu gigs yn Aber yn flog arall ynddo’i hun, y gwir amdani ydy fod trefnu gigs yn wirfoddol yn cymryd llawer iawn o egni ac amser ac mae blaenoriaethau pobl yn newid.
Rôl y cyfryngau
Ro’n i mewn cyfarfod agored a gynhaliwyd gan S4C yr wythnos diwethaf, ac wrth drafod un pwnc fe gododd rhyw hanner trafodaeth ymylol ynglŷn â rôl y cyfryngau yn y sin Gymraeg. Dwi wastad wedi credu mai rôl y cyfryngau ydy adlewyrchu’r sin yn hytrach na chreu’r sin. Er ei fod yn grêt i’r rhai oedd wedi llwyddo i gael tocynnau yn y Faenol, dwi ddim yn credu bod digwyddiadau fel Big Weekend Radio 1 sy’n cynnig tocynnau am ddim yn gwneud unrhyw ddaioni i wyliau eraill annibynnol sy’n trio gwerthu tocynnau i fod yn gynaliadwy. Mae’r cyfryngau’n hollbwysig i’r isadeiledd o ran hyrwyddo’r hyn sy’n digwydd, ac efallai fod angen i’w rôl nhw fod yn fwy uniongyrchol yng Nghymru, ond nid lle y cyfryngau ydy trefnu gigs. Wedi dweud hynny, mae gallu cyfrannau ‘facility fee’ bach am recordio gig i’w ddarlledu yn gallu bod yn hwb mawr i’r trefnwyr.
Mwy o nawdd cyhoeddus
Fe soniodd Dafydd Iwan mewn erthygl ar Golwg360 bod angen nawdd tebyg i’r hyn mae’r diwydiant llyfrau yn ei gael ar y sin gerddoriaeth yng Nghymru. Dwi’n cytuno bod angen gwell bargen ar gerddoriaeth Gymraeg, ond mae’n rhaid bod yn ofalus gyda nawdd cyhoeddus hefyd gan nad yw unrhyw sin sy’n dibynnu ar sybsidi yn sin iach. Tydi hyrwyddwr sydd wedi cyfro costau ei gig cyn cychwyn ddim yn mynd i weithio mor galed i sicrhau bod pyntars yn dod mewn trwy’r drws, a tydi gig gwag yn dda i ddim i neb.
Efallai bod rôl i’w chwarae gan y pwrs cyhoeddus o ran cymorth i gyhoeddi deunydd newydd, ac hyd yn oed i farchnata a dosbarthu cynnyrch ond yr hyn sy’n rhoi’r hwb mwyaf i gerddoriaeth ydy buzz, a thrwy sin gerddoriaeth fyw hynawf mae creu’r buzz hwnnw. Sut mae creu hwnnw heb orddibynnu ar nawdd cyhoeddus? Dwn i ddim, ond mae angen y drafodaeth.
Bandiau ddim yn denu?
Mae’n gas gen i’r hen ddadl ynglŷn â ‘ddylai bandiau Cymraeg ganu’n Saesneg?’ Mae ateb bandiau wastad yr un fath, a braidd yn boring erbyn hyn hefyd – ‘y gerddoriaeth sy’n bwysig, nid y geiriau’ a ‘da ni’n cyfansoddi geiriau ym mha bynnag iaith sy’n dod yn naturiol i ni’. Dwi o’r farn bod bandiau fel Super Furry Animals, Catatonia a Gorkys wedi gwneud gwaith da o ran hybu ymwybyddiaeth o gerddoriaeth Gymraeg trwy ganu’n Saesneg. Be wnaeth y bandiau yma oedd cyrraedd y brig yn y sin Gymraeg, gyda bandiau gwahanol i raddau yn achos Catatonia a SFA, a thrwy hynny gael cyfle i recordio deunydd Saesneg a dwyieithog i gyrraedd cynulleidfa ehangach. Pan bod nhw wedi cael y cyfle yma? Yn syml iawn gan eu bod nhw’n ddigon da ac wedi dal llygad y bobol bwysig sy’n cynnig cyfleoedd i fandiau. Cyfrinach arall y bandiau yma ydy’r ffaith eu bod nhw wedi llwyddo i gynnal y gefnogaeth o fewn y gynulleidfa Gymraeg.
Dwi’n codi’r mater yma gan fod yna broblem ‘headliners’ ar hyn o bryd h.y. y bandiau sydd wir yn boblogaidd ac yn denu cynulleidfa doed a ddel. Dros y blynyddoedd diwethaf mae rhai o’r prif fandiau yma fel Frizbee a’r Genod Droog wedi dod rhoi’r gorau iddi, a does ‘na neb wedi cymryd eu lle nhw i raddau helaeth. Mae rhai o’r bandiau fyddai wedi camu’n naturiol i’w lle nhw – Sibrydion, Race Horses ac efallai Master in France fel petai nhw wedi bod yn canolbwyntio’n fwy ar y sin Saesneg. Fedra i ddim barnu faint o lwyddiant maen nhw’n ei gael efo hyn, ond dwi’n ofni bod y penderfyniad wedi effeithio rhywfaint ar eu poblogrwydd o fewn y sin Gymraeg – wnaeth y Sibrydion na’r Race Horses chwarae yn y Steddfod llynedd er enghraifft, ac er bod gan y Sibrydion esgus da o’r hyn dwi’n deall, ond mae angen i’r bandiau yma fod ar lwyfan uchafbwynt cerddorol y flwyddyn.
Dyna amlinellu rhai o brif ffaeleddau’r sin felly. Mae angen mwy o gynnyrch, mwy o gigs, bandiau sy’n denu cynulleidfa, gwell dêl o ran breindaliadau a chyllid cyhoeddus, gwell isadeiledd ond yn fwy na dim gallu creu ychydig o gyffro. Mater bach felly ynde!