Beyonce yng Nghaerdydd, Llun: Mared Ifan
Roedd mynd i weld y seren bop byd-enwog, Beyoncé, yn brofiad newydd i mi.
Er fy mod i’n nabod y rhan fwyaf o’i chaneuon, fel y rhan fwyaf o bobol eraill fy oedran am wn i, doeddwn i byth yn ffan fawr a hynny am nad oedd llawer yn cael ei ddweud yn ei chaneuon.
Ond daeth tro ar fyd pan gyhoeddodd ei halbwm diweddaraf, Lemonade, sy’n un sgrech fawr o ffeministiaeth a brwydr pobol ddu America am hawliau sifil dros y ganrif ddiwethaf.
Ac os mai dyma beth oeddwn yn ei ddisgwyl wrth fynd i’w gwylio yng Nghaerdydd nos Iau, chefais mo fy siomi.
Gwleidyddiaeth canu pop
Roedd y daith hon, Formation World Tour, sydd wedi’i enwi ar ôl cân orau Lemonade yn fy marn i, yn fwy aeddfed na’i gwaith blaenorol, gan roi lle priodol i wleidyddiaeth mewn canu pop am y tro cyntaf ers sbel.
Roedd ei pherfformiad yn dechrau gyda Formation, cân sy’n adleisio hanes pobol ddu yn America dros y ganrif ddiwethaf, o buteindai New Orleans ddechrau’r ugeinfed ganrif i Gorwynt Katrina yn 2005 a laddodd 1,245 o bobol yn yr un ddinas.
Mae clip yn fideo’r gân sy’n dangos y ddinas dan ddŵr, cyfeiriad pigog tuag at ymateb hwyr yr awdurdodau i helpu pobol New Orleans – llawer ohonynt yn bobol ddu sy’n byw mewn tlodi.
Mae’r gân yn un floedd falch sy’n adlewyrchu lle menywod du am ryddid a chyfiawnder cymdeithasol a dyna oedd y perfformiad hefyd.
Ar yr albwm, roedd llais un o ymgyrchwyr hawliau pobol ddu America i’w clywed hefyd – Hattie White – sydd hefyd yn fam-gu i ŵr Beyoncé, Jay Z, sy’n dweud ar ei phen-blwydd yn 90 oed: “Rwyf wedi cael amseroedd da ac amseroedd caled, ond dw i o hyd wedi dod o hyd i nerth y tu mewn i mi i dynnu fy hun i fyny.
“Cefais lemwnau, ond fe wnes i lemonêd.”
Ysbrydoli merched ledled y byd
Roedd y perfformiad yn adlewyrchiad o daith pob dyn a dynes mewn bywyd ac yn wers bywyd ar sut i aros yn gryf mewn amseroedd caled.
Nid rhyw ‘girl power’ llipa sydd gan Beyoncé fan hyn ond caneuon cryf – pop â chig arno – fydd yn ysbrydoli merched o bob oedran, ledled y byd.
Roedd hi’n wych bod yno i brofi perfformiad angerddol a gwreiddiol, ac mi adawais y stadiwm yng Nghaerdydd yn ffan o Beyoncé a hefyd yn rhywun oedd yn falch iawn o fod yn ferch.