Yws Gwynedd yn ei morio hi yn fideo 'Sebona Fi'
Owain Schiavone sy’n trafod pwysigrwydd y fideo ar gyfer hyrwyddo cerddoriaeth, a phoblogrwydd un fideo o’r fath yn arbennig eleni.

“Video killed the radio star” meddai geiriau’r gân boblogaidd honno gan The Buggles ar ddechrau’r 1980au, a dros y degawdau diwethaf mae’r fideo cerddoriaeth wedi bod yn arf pwysig wrth hyrwyddo cerddoriaeth boblogaidd.

Mae’r modd mae fideos cerddoriaeth yn cael eu defnyddio wedi esblygu dros y blynyddoedd, o Hard Days Night y Beatles yn y sinemâu ym 1964, ‘Bohemian Rhapsody’ Queen yn dechrau oes newydd i’r fideo ym 1980, ac yna MTV yn lansio ym 1981 gyda nifer o sianeli tebyg yn dilyn.

Erbyn heddiw, mae grym y fideo mor bwerus ac erioed gyda YouTube yn cynnig potensial i gyrraedd miliynau o bobl mewn munudau – does ond angen i mi ddweud Gangam Style i brofi’r pwynt.

Gwobrwyo’r gorau

Rydan ni wrthi’n paratoi i agor pleidlais Gwobrau’r Selar ar 10 Rhagfyr, ac yn gwahodd pobl i yrru eu henwebiadau ar gyfer y categorïau erbyn 1 Rhagfyr er mwyn llunio rhestrau hir.

Ers cwpl o flynyddoedd mae ‘Fideo Gorau’ wedi bod ymysg y categorïau, ac mae wastad yn ddifyr llunio rhestr chwarae o’r fideos sydd wedi eu cyhoeddi dros y flwyddyn a fu. Mae Ochr 1, fel yr unig raglen S4C sy’n canolbwyntio ar gerddoriaeth gyfoes bellach, wrth reswm yn gyfrifol am lawer o’r fideos sy’n cael eu cynhyrchu, ond mae wastad yn braf gweld ambell fideo annibynnol ar y rhestr hefyd.

Mae Sŵnami wedi cael cryn lwyddiant dros y blynyddoedd diwethaf gyda’r fideo yma i’r gân Gwenwyn yn ennill y teitl ar gyfer 2014, a’r fideo cofiadwy iawn i Gwreiddiau’n mynd â hi y flwyddyn flaenorol.

Seboni

Wrth ddiweddaru rhestr eleni a llunio rhestr chwarae YouTube ar gyfer y fideos cymwys, mi wnes i ddechrau sylwi ar faint o bobl oedd wedi gwylio rhai o’r fideos yma.

Bydd rhaid aros tan noson y gwobrau ar 20 Chwefror i weld pwy fydd yn ennill pleidlais gyhoeddus Gwobrau’r Selar, ond does dim amheuaeth ynglŷn â pha fideo o gasgliad 2015 sydd wedi cael ei chwarae fwyaf ar YouTube.

Mae fideo ‘Sebona Fi’ gan Yws Gwynedd wedi croesi 25,000 o bobl yn gwylio, sydd yn ffigwr digon syfrdanol ar gyfer fideo cerddoriaeth Cymraeg.

Mae poblogrwydd cyn ganwr y grŵp Frizbee yn glir – wythnos diwethaf roedd sôn am docynnau i’w gig yng Nghaernarfon fis Rhagfyr yn gwerthu i gyd mewn awr – ac unwaith eto mae wedi dangos y ffordd gyda’r fideo DIY yma.

I roi hyn mewn cyd-destun, mae Ble’r Aeth yr Haul gan Yr Ods wedi denu ychydig dros 1500 o bobl i wylio hyd yma, a Sŵn y Galon Fach yn Torri gan Huw M jyst dros y 1000, sef y ddau fideo nesaf ar y rhestr o ran i nifer sydd wedi gwylio. Er, mae’n werth nodi mai dim ond ers rhyw fis mae’r fideo hyfryd i gân hyfryd Huw M ar-lein tra bod ‘Sebona Fi’ ar YouTube ers mis Mehefin.

Cofiwch chi, mae gan Yws dipyn o ffordd i fynd cyn dal y glasur o fideo isod i gân Genod Droog o ddyddiau Bandit, sy’n agosáu at ffigwr gwylio o 70,000 wrth i mi deipio.