Morgan Owen
Mae Morgan Owen wedi dod ar draws cyfeiriad diddorol yng ngwaith Guto’r Glyn …
Mae tuedd weithiau i feddwl am Ferthyr fel tref weddol ‘newydd’ yn yr ystyr y daeth hi’n enwog yn ystod y Chwyldro Diwydiannol ac am fod ei hanes a’i hunaniaeth o’r herwydd yn annatod ynghlwm wrth ddiwydiant yn nhyb nifer.
Cymerir yn ganiataol ar y cyfan iddi beidio â bod o gwbl cyn sefydlu’r gwaith haearn cyntaf yna oddeutu’r flwyddyn 1750. Nid felly y bu o bell ffordd.
Guto’r Glyn
Soniwyd gennyf eisoes yma am hanes Cymraeg Merthyr a sut yr oedd hi’n dref gyda mwyafrif Cymraeg ei phoblogaeth hyd at 1911.
Gellir ychwanegu at hynny y ffaith hynod ddiddorol onid anadnabyddus hon: yn llawysgrif Peniarth 57, a ysgrifennwyd tua 1450, ceir cerdd gan Guto’r Glyn i Syr Wiliam o Ferthyr Tudful (cerdd 54 yn y llawysgrif).
Dyma namyn un cwpled ohoni: ‘Mordaf côr yw’r mawriôr mhau, / Merthyr, lle gwna Mair wyrthiau’ (ll. 21-22).
Dim sôn
Darganfûm hyn ryw bythefnos yn ôl ac fe’m synnwyd yn ddirfawr. Fe’m synnwyd bod un o feirdd mwyaf yr iaith Gymraeg y delir ei fod, ynghyd â Dafydd ap Gwilym, yn oreufardd Beirdd yr Uchelwyr wedi ysgrifennu cerdd am ŵr o Ferthyr.
Fe’m synnwyd ymhellach na chlywswn yn gynharach am hyn, yn enwedig yn yr ysgol. Onid yw hon yn ffaith sydd yn dilysu, fel petai, yr honiad mai Cymraeg yw hanes Merthyr, ac mai nonsens yw’r haeriad a glywir yn siomedig o aml mai ardal ‘Saesneg’ ei hiaith yw’r Cymoedd, ac felly y bu hi erioed? Gwnaed cam gwag, bid siŵr, trwy fwrw i ebargofiant y ffaith hon.
Ymhellach, onid yw’r crybwylliad hwn o Ferthyr ym marddoniaeth un o feirdd enwocaf y traddodiad unigryw Gymraeg o ganu cywyddau mawl i noddwyr yn dangos bod gan y dref hon ei chyfran yn nwfnwreiddiedig ac anrhydeddus draddodiad ein hiaith a’i llenyddiaeth?
Rhan o’r hanes
Gwelir felly fod y Gymraeg nid yn unig yn estyn yn ôl yn bell iawn yn hanes Merthyr Tudful, ond bod y dref wedi cael lle, er ei fychaned ac er mor wibiol, ym meddwl a barddoniaeth neb llai na Guto’r Glyn.
Bydded yn hysbys i gynifer â phosib y ffaith hon, a bydded i bobl Merthyr werthfawrogi eu hanes a phriod iaith eu tref.
Gwn i bobl gywilyddio ynghylch siarad Cymraeg yn y dref weithiau. Bid a fo am y rhesymau y tu ôl i hynny, ond cofied y neb sy’n teimlo rhyw warth wrth siarad yr iaith ym Merthyr i un o’n beirdd mwyaf barddoni amdani.
Mae Morgan Owen yn astudio’r Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd.