Aled Rheon Os ydych chi wedi bod yn Eisteddfod Meifod eleni un peth oedd yn sicr ddim yn brin ohono oedd cyfleoedd i wrando ar rhywfaint o gerddoriaeth – boed hynny ar lwyfan y maes, y Tŷ Gwerin a Chaffi Maes B, neu gigiau nos Maes B a Chymdeithas yr Iaith.
Drwy gydol yr wythnos fe fyddwn ni hefyd yn dod a sesiynau Sgwrs a Chân Golwg360 i chi o’r maes, gan fachu gair â rhai o’r artistiaid a’u clywed nhw’n chwarae ambell diwn fach.
Mae Aled Rheon yn un o artistiaid prosiect Gorwelion eleni, ac fe fu Llewelyn Hopwood yn sgwrsio ag ef am ei brosiectau cerddorol diweddar.
Gallwch wylio’r Sgwrs a Chân ag Aled Rheon yma:
Gallwch wrando i ragor o gerddoriaeth Aled Rheon a chael rhagor o wybodaeth amdano ar ei dudalennau Soundcloud a Twitter.
Nod yr adran Safbwynt yw sbarduno trafodaeth am Gymru a thrafodaeth am y byd yn Gymraeg. Gallwch gyfrannu erthyglau am unrhyw bwnc – diwylliant, yr iaith, celfyddydau, teledu, radio, yr amgylchedd, twristiaeth, iechyd, gwleidyddiaeth, hanes, addysg, yr economi, yr iaith… unrhyw beth, ewch amdani!
Darllen rhagor
Ar ôl cyflwyno’ch erthygl, bydd golygyddion Golwg yn cael cyfle i’w golygu, ei chymeradwyo, a’i chyhoeddi – bydd eich erthygl wedyn yn ymddangos ar adran Safbwynt ar Golwg360.
Byddwn hefyd yn rhannu eich erthygl i’n dilynwyr ar Twitter a Facebook, felly cofiwch dynnu sylw at eich erthygl a’i hanfon at eich ffrindiau ac unrhyw un arall a allai fod â diddordeb. Bydd eich enw ar y wefan yn gweithredu fel dolen i’ch holl gyfraniadau – felly gallwch ei drin ychydig fel blog personol.
Os byddwch am gyfrannu’n rheolaidd – cysylltwch! Gallwn drefnu tanysgrifiad am ddim i gyfranwyr rheolaidd.