Mae dawnsiwr a gafodd ei ladd rai oriau’n unig cyn yr oedd disgwyl iddo gymryd y brif ran mewn sioe yn un o brif theatrau Llundain, wedi cael ei alw’n “un o ddawnswyr mwya’ carismataidd a phwerus ei genhedlaeth”.
Fe gafodd Jonathan Ollivier, 38, ei ladd mewn damwain fotorbeic ddoe, cyn yr oedd disgwyl iddo gamu i’r llwyfan yn y perfformiad olaf o The Car Man gan Matthew Bourne yn Theatr Sadler’s Wells.
Mae’r dawnsiwr, a fu’n cymryd rhan yr Alarch yn fersiwn dynion-yn-unig o Swan Lake, wedi’i ddisgrifio fel “gwr bonheddig go iawn”.
Mewn datganiad, dywedodd y coreograffydd, Matthew Bourne: “Ddoe, fe gollon ni ein halarch… roedd Jonathan Ollivier yn un o’r dawnswyr mwya’ carismataidd a phwerus o’i genhedlaeth. Roedd yn bresenoldeb gwrywaidd iawn, ond roedd ganddo hefyd ochr dyner a oedd yn ei wneud yn ddawnsiwr perffaith ar gyfer cymaint o sioeau.
“Roedd ganddo gymeriad cynnes, ac roedd Jonny yn wr bonheddig go iawn, ac roedd ei gyd-ddawnwyr yn ei garu, ei edmygu ac yn ei barchu.
“Roedd o hefyd yn ysbrydoliaeth ac yn esiampl dda ar gyfer dawnswyr ifanc a oedd yn gwneud eu gorau i efelychu ei dechneg arbennig a’i bresenoldeb ar lwyfan.”
Fe fu’r dawnsiwr mewn gwrthdrawiad gyda char Mercedes du yn Llundain.