Mae angen canmol trefnwyr Gŵyl Jazz Aberhonddu am ei sefydlu, ei hachub a’i chynnal, yn ôl un o fawrion y byd jazz Prydeinig.
“Mae’n fwy na sefydliad erbyn hyn,” meddai’r sacsaffonydd a’r clarinetydd, Courtney Pine, yn ystod ei berfformiad yn Eglwys Gadeiriol Aberhonddu yn yr ŵyl eleni. “Mae’n enwog trwy’r byd i gyd.”
Ac, yn ôl y dyn sy’n cael ei weld yn un o ysgogwyr y dadeni jazz Prydeinig, roedd hi’n “freuddwyd” iddo gael chwarae yn yr eglwys … yn enwedig chwarae ei fersiwn o’r emyn ‘Amazing Grace’.
Y beirdd Cymraeg a’r bandiau
Roedd brob pob cyngerdd yn llawn yn ystod yr ŵyl bedwar niwrnod, gyda rhai cerddorion Cymreig yn amlwg, yn arwain eu bandiau eu hunain – Huw Warren, Gareth Williams ac un o’r sêr newydd addawol, y Cymro Cymraeg, Huw V Williams.
Roedd gan y chwaraewr bas o Fangor ganeuon er cof am ei daid a’i nain ac un wedi ei hysbrydoli gan gerdd fawr T. H. Parry-Williams, Hon. Dyna enwi ei brosiect hefyd.
Roedd bardd arall – Hedd Wyn – wedi ysbrydoli un o ganeuon Gareth Williams, y pianydd o Lundain, a Dylan Thomas yn ymddangos yn ei waith ef a Huw Warren.