Carwyn Jones ar faes yr Eisteddfod ym Meifod eleni
Mae Carwyn Jones a Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru Huw Lewis wedi cael eu cyhuddo o beidio ag ymyrryd pan nad yw cynghorau sir yn ateb y galw am addysg Gymraeg.
Mae hynny er bod ganddyn nhw bwerau cyfreithiol i wneud hynny bellach yn ôl llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol ar addysg yn y Cynulliad, Aled Roberts.
Dywedodd yr AC dros Ogledd Cymru bod Uned Gymraeg y Llywodraeth “yn eithaf gwan” a bod Carwyn Jones yn rhy brysur gyda’i ddyletswyddau fel Prif Weinidog i allu cymryd cyfrifoldeb llawn dros y Gymraeg.
Mynegodd Aled Roberts bryder hefyd am sefyllfa addysg Cymraeg o fewn rhai siroedd yng Nghymru, gan ddweud bod disgyblion yn dewis astudio yn Lloegr oherwydd safonau uwch.
Aled Roberts yn siarad â Golwg360 am ei bryderon ynghylch addysg Gymraeg:
Carwyn Jones a’r Gymraeg
Bu Aled Roberts yn cynnal cyfarfod anffurfiol gydag aelodau’r mudiad Dyfodol i’r Iaith ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Meifod yr wythnos diwethaf ar amryw bynciau.
Wrth siarad â Golwg360 yn dilyn y cyfarfod awgrymodd yr Aelod Cynulliad nad oedd y Gymraeg yn cael digon o sylw gan Lywodraeth Cymru.
“Da i ryw raddau fod y Prif Weinidog yn gyfrifol am yr iaith Gymraeg ond mai hynny yn achosi problemau hefyd, achos bod o mor brysur wrth gwrs,” meddai Aled Roberts.
“Hwyrach bod yna ddim digon o arweiniad gwleidyddol yn cael ei wneud i weision sifil sydd yn eithaf hapus a bodlon ei byd os ydyn nhw jyst yn troi mewn cylchoedd.”
Cynlluniau Strategol Addysg ‘ddim yn ddigon cryf’
Yn ôl Aled Roberts mae’n rhaid edrych ar gael Uned sydd â chyfrifoldeb dros y Gymraeg ar draws y Llywodraeth.
“Yn bendant dw i’n meddwl bod rhaid i chi fynd ar ôl yr Uned Gymraeg eu hunain, achos nhw sydd ‘di derbyn y cynlluniau strategol addysg a dydyn nhw ddim yn ddigon cryf yn fy marn i.
“Mae gan y Gweinidog [Addysg] yr hawl i ymyrryd lle mae o’n credu bod unrhyw gyngor sir methu ymateb i’r galw am addysg Gymraeg o dan ran 21 yn Ddeddf Trafnidiaeth Ysgolion, ond dydy o ddim yn awyddus i wneud.”