Gerwyn ac Ifan o Sŵnami
Os fyddwch chi yn Eisteddfod Meifod eleni un peth fyddwch chi’n sicr ddim yn brin ohono fydd cyfle i wrando ar rhywfaint o gerddoriaeth – boed hynny ar lwyfan y maes, y Tŷ Gwerin a Chaffi Maes B, neu gigiau nos Maes B a Chymdeithas yr Iaith.

Drwy gydol yr wythnos fe fyddwn ni hefyd yn dod a sesiynau Sgwrs a Chân Golwg360 i chi o’r maes, gan fachu gair â rhai o’r artistiaid a’u clywed nhw’n chwarae ambell diwn fach.

Rydyn ni eisoes wedi bod yn sgwrsio ag Y CledrauBromasWelsh WhispererJaffro ac Al Lewis, a’r diweddaraf i ymuno â ni am glonc ar y maes a thiwn fach ydi hogiau Sŵnami.

Llewelyn Hopwood sy’n sgwrsio â Gerwyn Murray, Ifan Davies ac Ifan Ywain o’r band am eu halbwm newydd, ‘Sŵnami’.

Gallwch wylio’r Sgwrs a Chân â Sŵnami yma:

Gallwch wrando i ragor o gerddoriaeth Sŵnami a chael rhagor o wybodaeth am y band ar eu tudalennau Soundcloud, Facebook a Twitter.