Hywel Griffiths
Hywel Griffiths, darlithydd ym Mhrifysgol Aberystwyth sydd yn wreiddiol o Langynog yn Sir Gâr, sydd wedi cipio Cadair Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau eleni.

Beirniaid y gystadleuaeth eleni oedd Mererid Hopwood, John Gwilym Jones a Twm Morys, gyda’r Gadair yn cael ei chyflwyno am awdl neu dilyniant o gerddi mewn cynghanedd gyflawn, hyd at 250 llinell, dan y teitl ‘Gwe’.

Roedd hi’n gystadleuaeth agos rhwng dwy ymgais, gyda’r beirdd yn canmol gwaith ‘Ceulan’ a ‘Cwm Du’, ond ‘Ceulan’ aeth a hi gyda Twm Morys yn cydnabod fod gwaith Hywel Griffiths “yn fwy uchelgeisiol, yn fwy sylweddol yn y pen draw”.

Mae Hywel Griffiths eisoes wedi ennill Coron yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd yn 2008, yn ogystal â dwy gadair yn Eisteddfod yr Urdd.

Mae’n ddarlithydd yn Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, Prifysgol Aberystwyth, ac wedi gweithio yno ers 2009.

Mae Golwg360 ar ddeall mai ‘Cwm Du’, a ddaeth yn agos at gipio’r wobr, oedd Rhys Iorwerth.

Hywel Griffiths yn sgwrsio â Golwg360 ar ôl ennill y Gadair:

Beirniadaeth

Traddodwyd y feirniadaeth gan Mererid Hopwood ar ran ei chyd-feirniaid, ac wrth sôn am waith ‘Ceulan’, dywedodd, “O’r cychwyn, sylweddolwn ein bod yng nghwmni bardd sy’n gweld ymhell ac yn gwrando’n astud: ‘Clywaf ei lais yn crafu/ewinedd dweud ar fwrdd du’.

“Mae’n pendilio rhwng y presennol a’r gorffennol gan ddechrau mewn ward ysbyty yng Nghymru eleni, lle mae henwr ar ei wely angau’n cofio nôl i Ryfel Cartref Sbaen a’r cydymdeimlad brawdol a ddenodd gymaint o Gymry i fynd i ymladd yn erbyn Ffasgaeth.

“Ond nid cofio un gyflafan yn unig a wna Ceulan. Drwy’r we fyd-eang, mae’n clicio dolenni a chyrraedd Gaza lle mae ‘Lladd ar y Llain!♯C’wilydd! Celain!’, ac yna’n gynnil grefftus, heb ochri, defnyddia hanes y Gododdin i’n hatgoffa mai lladd yw canlyniad pob rhyfel. Mae’n clywed ‘corws cras eco’r oesoedd’, ac mae’r bechgyn ‘trwy’r bore fel trwy beiriant yn martsio’. Yna’n ysgytwol dywed am ryfel yn troi ‘fesul llanc, /flodau haf yn flawd ifanc’.

“Cyn diwedd y gerdd dychwelwn i Sbaen gyfoes, lle mae ymgais ddiweddar i roi beddau newydd i filwyr dwy ochr Y Rhyfel Cartref wedi codi’r hen atgofion rhanedig.  Ac mae peryglon gwasgu pethau i gefn y cof yn thema bwysig arall ganddo: ‘O roi’r cof dan glawr cyfyd / yr anghofio’n gofio i gyd’, meddai. Yna wrth i’r henwr farw, mae’r bardd yn canu ‘i deipio dur/ a chreu rhan fach o’r hen fur’ – y mur anweledig sydd ynom ni yn cynnal ein brawdoliaeth.

Brwydr agos

“Daeth amser cloriannu – Cwm Du neu Ceulan? Cwm Du y cynganeddwr rhwydd, Ceulan bardd y llinellau grymus? Cwm Du y storïwr naturiol? Ceulan y corddwr anesmwyth.

“Heb os, byddai cerddi Cwm Du yn haws i’w mwynhau ar y darlleniad cyntaf, ac yn canu mewn pebyll ac ar aelwydydd cyn chwech o’r gloch heno – ac mae Twm Morys yn dweud, mae’n siŵr pe byddai fe ar ei hunan bach yn beirniadu, Cwm Du fyddai wedi mynd a hi, ac eto mae’n cydnabod falle bod cof am brifwyl heulog 2003 wedi lliwio chydig ar ei farn, gan ddweud fel hyn ‘mae awdl Ceulan yn fwy uchelgeisiol, yn fwy sylweddol yn y pen draw’.  Mae John Gwilym a finnau hefyd o’r farn bod y ddwy gerdd hyn yn haeddu ei gwobrwyo a chael gwrandawiad cenedl.

“Felly, am y wefr, ac am ddyfnder y dweud, ac am ein bod ni’n tri’n cyd-weld yn llwyr fod awdl Ceulan yn llawn haeddu’r gadair, Ceulan fydd yn chwilio am gornel i’r celficyn hardd hwn eleni. Gyda phob anrhydedd.”