Llewelyn Hopwood yn sgwrsio â Joseff a Marged o fand Y Cledrau
Os fyddwch chi draw yn Eisteddfod Meifod eleni un peth fyddwch chi’n sicr ddim yn brin ohono fydd cyfle i wrando ar rhywfaint o gerddoriaeth – boed hynny ar lwyfan y maes, y Tŷ Gwerin a Chaffi Maes B, neu gigiau nos Maes B a Chymdeithas yr Iaith.

Drwy gydol yr wythnos fe fyddwn ni hefyd yn dod a sesiynau Sgwrs a Chân Golwg360 i chi o’r maes, gan fachu gair â rhai o’r artistiaid a’u clywed nhw’n chwarae ambell diwn fach.

Yn ein sgwrs gyntaf bu Llewelyn Hopwood yn holi Joseff Owen a Marged Gwenllian o fand Y Cledrau, wrth iddyn nhw lansio eu EP newydd ‘Un ar ôl y llall’ sydd allan ar label Ikaching.

Bu’r ddau hefyd yn chwarae un o’r caneuon oddi ar yr EP newydd, ‘Pwy Dd’udodd Fyddai Lawer Gwell?’

Gallwch wylio’r Sgwrs a Chân yma:

Gallwch wrando i ragor o gerddoriaeth Y Cledrau, a chael rhagor o wybodaeth am sut i gael gafael ar eu EP newydd, ar eu tudalennau Soundcloud, Facebook a Twitter.