Mae ymgynghorydd blaenllaw ar gerddoriaeth wedi rhybuddio bod statws Cymru fel ‘Gwlad y Gân’ mewn perygl yn sgil ffrae tros ariannu gwasanaethau cerddoriaeth.
Wrth i nifer o gynghorau Cymru geisio arbed miliynau o bunnoedd, mae gwasanaethau sy’n cynnig gwersi cerddoriaeth i bobol ifanc mewn ysgolion mewn perygl.
Dywedodd Emyr Wyn Jones, fu’n arwain ymgynghoriad ar wasanaethau cerddoriaeth ledled Cymru, wrth raglen Post Cyntaf BBC Radio Cymru bod plant yn colli’r cyfle i gael gwersi oherwydd diffyg cytuno ynghylch pwy fydd yn eu hariannu.
“Bydd hynny’n effeithio yn ei dro ar gystadlu yn yr Eisteddfod. Yr eironi yw ein bod ni’n ‘Wlad y Gân’, ond ymhen deng mlynedd, fyddwn ni ddim yn haeddu’r teitl yna.”
Fe fu ymgyrch sylweddol yn Rhondda Cynon Taf ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf i geisio achub gwasanaethau teithiol yn yr awdurdod.
Cafodd deiseb oedd yn cynnwys 3,000 o lofnodion a 500 o lythyron eu cyflwyno i’r cyngor sir gan ymgyrchwyr yn ystod cyfnod ymgynghori a ddaeth i ben fis Ionawr eleni.
Rhondda Cynon Taf
Dywedodd Ann Griffiths o grŵp ymgyrchwyr Cyfeillion Gwasanaeth Cerddoriaeth Rhondda Cynon Taf wrth raglen y Post Cyntaf: “Dan ni mewn sefyllfa o newid ond dw i’n ffyddiog y gallwn ni gario ymlaen.
“Does neb yn gwrando ar hyn o bryd. Rhaid sicrhau dyfodol gwasanaethau cerdd – mae hynny mor bwysig.
“Mae cydweithio [rhwng cynghorau] yn un ffordd o gwtogi pres. Mae dweud ei bod hi i lawr i wasanaethau cerdd i’w hariannu eu hunain ddim yn ateb. Fedrwn ni ddim ariannu’n hunain. ’Dan ni’n gwybod fod ’na lai o arian yng Nghymru.”
Awgrymodd y gallai Rhondda Cynon Taf elwa o drefn debyg i honno a gafodd ei chyflwyno gan Sir Ddinbych er mwyn achub gwasanaethau cerddoriaeth y sir.
Fe fydd cynllun cydweithredol yn gyfrifol o fis Medi ymlaen am gynnig gwersi cerddoriaeth i 2,200 o ddisgyblion y sir, ac mae’r grŵp cydweithredol wedi llwyddo i achub swyddi 34 o athrawon teithiol.