Mae Carwyn Jones wedi mynnu bod agweddau Cyngor Sir Powys tuag at yr iaith Gymraeg wedi newid wrth drafod dyfodol addysg uwchradd Cymraeg yn y sir.
Roedd Prif Weinidog Cymru yn ymweld â maes yr Eisteddfod ddydd Llun, ac fe ddywedodd wrth Golwg360 ei fod wedi trafod y ddarpariaeth addysg â swyddogion yr awdurdod lleol.
Mae’r cyngor sir wrthi’n ystyried cynlluniau “radical” i newid trefn addysg yn y sir ar hyn o bryd, gan gynnwys sefydlu ysgol uwchradd cyfrwng Gymraeg yng ngogledd y sir.
Ond mae disgwyl i Gymdeithas yr Iaith alw ar y cyngor i wneud mwy i gryfhau’r ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg yn yr ardal mewn rali ar faes yr Eisteddfod heddiw.
Cyfweliad gyda Carwyn Jones yn trafod addysg, y Gymraeg, a Phatagonia:
‘Heriau gwahanol’
Yn ystod ei ymweliad â maes yr Eisteddfod ym Meifod fe fynnodd Carwyn Jones ei bod hi’n bwysig bod y brifwyl yn ymweld ag ardaloedd oedd â lleiafrif o siaradwyr Cymraeg.
Wrth drafod addysg, pwysleisiodd bod “heriau’n wahanol” yng ngogledd a de Powys a bod “yr un peth ddim am weithio ym mhob rhan o Gymru”.
“Fi wedi siarad lot â Chyngor Sir Powys heddiw a beth sy’n galonogol yw maen nhw’n gweld bod angen iddyn nhw hybu’r Gymraeg,” meddai’r Prif Weinidog.
“Dw i ddim yn credu bod hynny wedi bod yn wir dros y blynydde [ond] maen nhw’n gweld y pwysigrwydd nawr.”
Ymweld â’r Wladfa
Wythnos diwethaf fe fu Carwyn Jones ym Mhatagonia fel rhan o ddathliadau 150 mlynedd ers glaniad cyntaf y Cymry yno.
Disgrifiad nid yn annhebyg i Gymru oedd ganddo o sefyllfa’r iaith yn y Wladfa, gyda phobl hŷn a phlant ifanc yn siarad mwy o’r iaith ond cenhedlaeth yn y canol oedd yn llai tebygol o wneud.
Er bod “cyfleoedd” i ddefnyddio’r Gymraeg gan drigolion Patagonia, fodd bynnag, doedd gan y Prif Weinidog ddim amheuaeth eu bod nhw’n wynebu sefyllfa llawer anoddach na’r Cymry.
“Mae e’n waeth yn fynna, does dim cyfryngau Cymraeg, ychydig bach sydd i ddarllen yn Gymraeg … does dim cymuned Gymraeg lle mae pobl yn siarad Cymraeg ar yr hewl, mae’n rhaid i bobl fynd i lefydd i siarad Cymraeg â’i gilydd,” meddai Carwyn Jones.
Stori: Iolo Cheung