Datblygu
Ar 11 Mehefin mae Golwg ar grwydr yn Aberteifi, ac uchafbwynt y diwrnod fydd sgwrs arbennig gyda’r eicon cerddorol, David R Edwards o’r grŵp Datblygu, yn siop Awen Teifi ddiwedd y prynhawn.
A dyma eich cyfle chi i ddweud pa un o ganeuon y band chwyldroadol ydi’r orau.
Pleidleisiwch yn y pôl ar waelod y dudalen ac, os gallwch, dewch draw i Awen Teifi i glywed barn y dyn ei hun.
Arloesol
Heb os, roedd Datblygu’n grŵp arloesol ac efallai mai nhw oedd y grŵp mwyaf dylanwadol o safbwynt cerddoriaeth Gymraeg danddaearol yn ystod y 1980au.
Ym mis Mai cafodd y casgliad ‘Datblygu 1985-1995’ ei ailfastro a’i ailgyhoeddi ar label Ankst Musik. Dyma’r casgliad mwyaf arwyddocaol o waith Datblygu i gael ei gyhoeddi ac mae’n cynnwys holl ganeuon amlyca’r grŵp o’r cyfnod pan oedden nhw ar eu gorau.
Y sgwrs
Bydd y sgwrs gyda Dave yn Aberteifi’n gyfle i drafod y casgliad, ynghyd â stwff newydd sydd ar y gweill gan y grŵp, a hynny nôl yn y dref lle dechreuodd y cyfan.
Wrth edrych ymlaen at y sgwrs, mae Golwg360 am wybod barn ein darllenwyr ynglŷn â pha un o ganeuon Datblygu ydy’r orau o’r casgliad ‘senglau’.
Byddwn yn defnyddio’r caneuon sy’n dod i’r brig yn sail ar gyfer y sgwrs gyda Dave, gan geisio mynd o dan groen yr hyn a ysgogodd y caneuon a rhai o’r negeseuon sydd ynddyn nhw.
Mae Golwg ar Grwydr yn Aberteifi ar ddydd Iau 11 Mehefin, a’r sgwrs gyda David R Edwards yn siop Awen Teifi am 17:30. Nifer cyfyngedig o docynnau sydd ar gael – ffoniwch Golwg ar 01570 423 529 i archebu tocyn.