Y tri aelod o fand Ysgol Sul
Ianto Gruffydd sydd wedi bod yn sgwrsio â’r criw o Landeilo …
Os ydych chi’n dilyn cerddoriaeth Gymraeg, mae’n debygol eich bod chi wedi clywed yr enw ‘Ysgol Sul’ cryn dipyn dros y flwyddyn ddiwethaf.
Mae’r band tri aelod – Iolo, Cian a Llew – wedi neidio i frig y sin yn haeddiannol iawn ar ôl ennill Brwydr y Bandiau 2014 a gwobr ‘Band Newydd Gorau’ yng Ngwobrau’r Selar.
Yn ogystal â recordio Sesiwn C2 ar ddechrau’r flwyddyn, maen nhw newydd ryddhau eu senglau cyntaf, Aberystwyth yn y Glaw a Machlud Haul.
Nabod steil ei gilydd
Mae’r band lo-fi o Landeilo via Aberystwyth yn llusgo cerddoriaeth Gymraeg i 2015, a braf ydi gweld llwyddiant band sydd yn anelu am rywbeth sydd heb gael ei wneud yn Gymraeg o’r blaen.
“Pavement, My Bloody Valentine a Beach Fossils,” meddai Llew, drymiwr y band, pan ofynnwyd iddo pwy oedd dylanwadau mwyaf Ysgol Sul, a diffiniodd eu steil lo-fi fel “slacker rock”.
Mae teimlad o bendantrwydd am yr hyn y mae’r band yn ei wneud, felly annheg fysa eu galw nhw’n ‘arbrofol’, fel mae llawer yn ei wneud, am fod y sŵn yn un anghyffredin yn y sin Gymraeg.
Iolo, y gitarydd a’r prif leisydd, sydd yn ysgrifennu’r gerddoriaeth a’r geiriau i’r band, ac yn ôl Llew “roedden ni’n ymwybodol o flas cerddoriaeth ein gilydd cyn ffurfio Ysgol Sul, felly’r dewis naturiol oedd ffurfio band”.
Dyma sydd yn gwahaniaethu Ysgol Sul oddi wrth gymaint o fandiau newydd; roedden nhw’n gwybod pa gerddoriaeth roedden nhw eisiau ysgrifennu cyn ffurfio.
Ac oherwydd hynny, mae wedi bod yn hawdd iddyn nhw ddarganfod eu sŵn nodweddiadol a’i gyfleu yn berffaith hyd yn oed yn eu dwy sengl gyntaf.
Dwy gân syml
Aberystwyth yn y Glaw ddaeth allan (ar label Ikaching) gyntaf, ac yn barod, mae’n gân sydd wedi sefydlu ei hun yng nghof llawer ers ei rhyddhau ym mis Chwefror.
Egyr y gân yn araf: drymiau syml yn rhyngweithio â bas budr, a’r darn gitâr ‘jangly’ yn atseinio drwy’r penillion.
Mae’n gân flêr ac amrwd, ond dyna sydd i’w ddisgwyl â cherddoriaeth lo-fi, a dyna yw ei phrydferthwch.
Teimlad mwy ‘neis’ sydd ar Machlud Haul, eu hail sengl a ryddhawyd fis diwethaf ar label Ikaching. Cân hiraethus sydd yn gweddu â’r teimlad hafaidd sydd ar y gân, a hon yw fy ffefryn.
Mae’r cymysgu a’r recordio, a gafodd ei wneud gan Llyr Pari yn ei stiwdio yn Llanrwst, yn cadw’r ddwy gân yn syml.
Er hynny, mae’r gitâr yn atseinio ac yn swnio’n freuddwydiol. Dyma – yn ogystal â llais Iolo – sydd yn cwblhau a llenwi eu sŵn. Mae’n rhywbeth sy’n anodd cyflawni gyda band tri aelod, ond mae’r band yma’n ei wneud yn weddol hawdd.
Beth nesaf?
Gofynnais, allan o obaith mewn gwirionedd, os oedd gan Ysgol Sul unrhyw gynlluniau ar gyfer y dyfodol agos.
“Does gennym ni ddim cynlluniau brys i’r dyfodol fel band,” meddai Llew.
“Rhyddhau EP dros yr haf fyddai’r peth delfrydol, ond cawn weld beth sydd gan y dyfodol i’w ddweud.”
Mi fydda i felly yn gobeithio am fwy o’r un peth gan y triawd o Landeilo mor fuan ag sy’n bosib. Ond tan hynny, prynwch a gwrandewch ar eu senglau newydd Aberystwyth yn y Glaw a Machlud Haul sydd allan ar iTunes, ac edrychwch allan amdanynt dros yr haf.