Bydd band roc ifanc o Fôn yn ymuno â Chlwb Senglau cylchgrawn Y Selar fory wrth iddyn nhw ryddhau eu sengl gyntaf un.

Cafodd y gân ‘Neb yn Aros’ gan Terfysg ei recordio yn Stiwdio Sain yn Llandwrog ym mis Mawrth eleni, gyda Sion Jones yn cynhyrchu, ac fe fydd ar gael o ddydd Mercher, 29 Ebrill ymlaen.

Terfysg yw’r pumed band i ryddhau sengl fel rhan o gynllun y Clwb Senglau, gydag Estrons, Y Trŵbz, Henebion ac Ysgol Sul i gyd wedi gwneud dros y misoedd diwethaf.

‘Grŵp talentog’

“Rydan ni wedi dod ar draws Terfysg ers rhai misoedd ac yn credu eu bod nhw’n grŵp ifanc addawol dros ben,” meddai Owain Schiavone o gylchgrawn cerddoriaeth gyfoes Y Selar.

“Mae’r aelodau i gyd yn hynod o dalentog, maen nhw’n dynn eithriadol o ystyried eu bod nhw’n fand ers cyfnod mor fyr, ac mae ganddyn nhw sŵn llawn a ffres.”

Dywedodd canwr y grŵp, Dewi Erwan, ei fod yn falch iawn o’r cyfle i recordio a rhyddhau eu sengl gyntaf gyda Chlwb Senglau’r Selar gan egluro ei fod wedi arwain at gytundeb recordio’n barod.

“Da ni isho diolch yn fawr i’r Selar am y cyfle i recordio’r sengl yma, sydd wedi’n galluogi  ni i ennill contract recordio efo Sain i ryddhau EP, a chael lot o gigs yn y broses,” meddai’r canwr.

“Hefyd, diolch i bawb sydd wedi’n cefnogi o’r dechrau – yr annwyl ffans!”

Pwy ydy Terfysg?

Pum aelod o Ynys Môn sydd yn rhan o fand Terfysg – Aeron Jones (gitâr) a Sion Gwilym (drymiau) o Langefni, Ioan Gwyn (gitâr fas) o Star, James Jones (allweddellau) o Langoed, a Dewi Erwan (prif lais a gitâr) o Frynteg.

Maen nhw gyda’i gilydd fel band ers Awst 2014 ac yn disgrifio eu sŵn fel un eang, gan ddwyn dylanwadau o gerddoriaeth roc, pync, metal a gwerin.

Dros y mis nesaf bydd y grŵp yn perfformio’n fyw yng Ngŵyl Cefni ar 13 Mai, yng nghystadleuaeth Brwydr y Bandiau Clwb Canol Dre Caernarfon ar 15 Mai, ac ar lwyfan perfformio Eisteddfod yr Urdd yng Nghaerffili ar 30 Mai.

Bydd ‘Neb yn Aros’ gan Terfysg ar gael i’w lawr lwytho’n ddigidol ar 29 Ebrill.