Ianto Gruffydd sydd yn cymryd cip ar yr anrhegion cerddorol i lenwi’r hosan eleni …
Rhaid troi eich meddwl yn ôl yn bell iawn, tybiwn i, i ddarganfod cyfnod o ffrwythlondeb cerddoriaeth Gymraeg cystal â’r mis Rhagfyr yma sydd yn ein syfrdanu hyd yn hyn.
Os ydych chi’n cael trafferth meddwl am anrhegion ‘Dolig, dyma gipolwg o’r cynnyrch sydd ar gael i chi mis yma:
Dydd Llun prysur …
Ar ddechrau’r wythnos hon fe gafodd tri o albymau’r flwyddyn eu cyhoeddi.
Mae Geraint Jarman yn ôl gyda’i albwm newydd sydd wedi ei gyhoeddi ar label Ankst Musik – Dwyn yr Hogyn Nôl, albwm o ‘ganeuon gwerinol “noeth”’.
Yn ail cawsom ni’r ail albwm hir-ddisgwyliedig gan Candelas – Bodoli’n Ddistaw sydd allan ar label Ikaching. Gwyriad tuag at alawon melysach a riffs ychydig mwy edgy, llai pwerus na chafwyd ar yr albwm gyntaf.
Yn olaf, a fy hoff albwm o’r tri hyd yn hyn, ydi Codi’n Fore gan Bromas. Newid cyfeiriad o’r albwm Byr Dymor, gyda synau mwy egnïol, poppy.
… a senglau newydd
Nid dim ond albyms sydd wedi eu rhyddhau hyd yn hyn, gyda thair sengl wych eisoes allan gan dri artist sydd wedi cael blwyddyn brysur.
Mae enillwyr Brwydr y Bandiau C2, Y Trŵbz, yn ôl gyda’u sengl newydd ‘Tyrd yn Ôl’ sydd wedi ei ryddhau fel rhan o Glwb Senglau Y Selar.
Unwaith eto, cam i ffwrdd o beth rydym ni wedi clywed eisoes gan y pedwarawd o Ddinbych. Synau pop wedi ei meddalu gan y funk ysgafn sy’n llifo drwyddo.
Dim esgus i beidio tyrchu am arian i brynu ambell un o’r rhain gan eu bod nhw i gyd yn gynnyrch sydd o naws wahanol i beth mae’r artistiaid wedi eu rhyddhau ynghynt.
Ond yn ôl unwaith eto gyda synau cyfarwydd mae hen ffefrynnau’r Sîn, Y Bandana, gyda’u sengl sydd wedi ei rhyddhau ar label Sbrigyn Ymborth, ‘Mari Sal/Tafod y Tonnau’.
Pwy yw artist mwyaf poblogaidd y Sîn Roc Gymraeg ar hyn o bryd? Tybiwn i fod yr un nesaf yn agos iawn i’r brig.
Yws Gwynedd sydd wedi rhyddhau sengl Nadoligaidd hyfryd, ‘Fy Nghariad Gwyn’, cân brydferth sydd yn cyfleu’r ochr ysgafnach, melodïaidd sydd i gerddoriaeth Yws yn berffaith.
Dim ond yn ddigidol y mae’r tair sengl uchod ar gael, felly gofynnwch i’ch modrybedd ac ewythrod am voucher iTunes ar gyfer y Nadolig a dechreuwch y gwario gyda’r rheiny.
A rhagor i ddod
Ar ôl gig lansio gyda Y Bandana a Tymbal, mae EP newydd Uumar bellach allan hefyd ac mae’n deg dweud nad ydy o’n siomi!
Aelodau o’r Bandana a Breichiau Hir a Tom ap Dan sy’n cyfuno i roi yn union beth fysa chi’n ei ddisgwyl gyda’r tri band yna.
Mae mwy hefyd i ddod gyda Brigyn yn rhyddhau eu halbwm Brigyn 4, deng mlynedd wedi eu halbwm cyntaf, a Fleur de Lys yn rhyddhau eu EP cyntaf Bywyd Braf.
Felly gyda’r dewis anhygoel sydd ar gael i chi’r mis yma, chewch chi ddim mo’ch siomi os bydd ambell un yn eich cyrraedd Nadolig yma!