Dylan Thomas
Mae Llenyddiaeth Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau i gynnal ‘Dydd Dylan’ blynyddol i goffáu’r bardd Dylan Thomas, yn dilyn llwyddiant digwyddiadau i ddathlu canmlwyddiant ei eni.
Cyhoeddwyd yn y Llyfrgell Genedlaethol ddoe y bydd y diwrnod cenedlaethol yn cael ei gynnal ar Fai 14 o’r flwyddyn nesaf ymlaen, sef dyddiad y perfformiad cyntaf o Under Milk Wood yn Efrog Newydd yn 1953, y flwyddyn y bu farw’r bardd.
Bydd y cynllun yn para tair blynedd, ac mae’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.
Cafwyd perfformiad ddoe o ‘Dylan ar Daith’, sioe Aneirin Karadog a Martin Daws yn y Llyfrgell i lansio’r diwrnod cenedlaethol.
Roedd arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, Ellen ap Gwynn hefyd yn bresennol i drafod effaith bositif y bardd ar y sir.