Y cyfarwyddwr Peter Jackson yn ystod ffilmio'r Hobbit
Wrth i filoedd o ddilynwyr ffilmiau’r ‘Hobbit’ heidio i’r sinemâu o fory ymlaen i weld yr olaf o’r triawd, ‘The Battle of the Five Armies’, mae prosiect ymchwil yn Aberystwyth yn ceisio darganfod pwy yn union yw cynulleidfa’r fath ffilmiau.
Hwn yw’r prosiect ymchwil mwyaf uchelgeisiol erioed i gynulleidfaoedd ffilm, ac mae’n cael ei arwain gan academyddion a myfyrwyr ymchwil y brifysgol.
Ond ni fyddan nhw ar eu pennau eu hunain, gan fod yr ymchwil yn cyfrannu at ymchwil ehangach gan y World Hobbit Project i gynulleidfaoedd y diwydiant ffilmiau ffantasi ar draws 46 o wledydd y byd.
Bydd safbwyntiau cynulleidfaoedd yn cael eu casglu mewn 33 o ieithoedd, gan gynnwys y Gymraeg, Maori a’r Fasgeg, ac mae’r ymchwilwyr yn gobeithio derbyn hyd at 50,000 o ymatebion.
Y cwestiynau
Bydd y cwestiynau a fydd yn cael eu gofyn yn amrywio o berfformiad Martin Freeman fel Bilbo, cryfderau a gwendidau’r ffilmiau, rhinweddau’r ffilmiau yn erbyn y llyfrau, sut mae gweithgarwch ar-lein cynulleidfaoedd yn dylanwadu ar eu hymateb i’r ffilmiau, yn ogystal â’r ymateb i’r ffilmiau mewn trawstoriad o wledydd.
Bydd gofyn i ymatebwyr drafod rôl ffilmiau ffantasi yn niwylliant cyfoes eu gwledydd.
Mae rhai o’r ymchwilwyr, gan gynnwys yr Athro Emeritws Martin Barker wedi cynnal ymchwil tebyg yn y gorffennol i ffilmiau ‘Lord of the Rings’.
Dywedodd yr Athro Barker: “Hyd yn oed heb yr ymateb eithriadol gadarnhaol y beirniaid a gyfarchodd Lord of the Rings gan Peter Jackson, mae’r drydedd yng nghyfres yr Hobbit yn sicr o lwyddo. Ond mae ei llwyddiant yn codi cyfres o gwestiynau pwysig.
“Tan tua 2000, roedd y rhan fwyaf o feirniaid yn ddilornus o ffantasi, yn ei ystyried yn blentynnaidd ac yn gam yn ôl. Ond arweiniodd cyfres o ddatblygiadau at newid sylweddol mewn agweddau. Gwelwyd llwyddiant ysgubol ffilmiau Lord of the Rings.
“Yn y cyfnod hwn hefyd daeth awduron ffantasi i’r amlwg a oedd yn meddu ar farn wleidyddol megis China Mieville – sydd yn ei dro wedi arwain trafodaeth feirniadol o bwys ar wleidyddiaeth ffantasi. Gwelwyd Game of Thrones yn ennill ei lle, ac mae’n parhau’n boblogaidd.”
Newid argraff
Yn ôl un o’r ymchwilwyr, y fyfyrwraig PhD Nia Edwards-Behi, bydd yr ymchwil yn herio’r ffordd y mae pobol yn meddwl am gynulleidfaoedd ffilmiau ffantasi ac yn eu hystrydebu.
“Roedd timau wedi gweithio hefo’i gilydd i gyfieithu’r cwestiynau ac mae’n enfawr o beth.
“Does dim ymchwil tebyg yn cael ei wneud yn unman arall ar hyn o bryd ac mae’n gyfle da i ni rannu adnoddau rhwng y gwledydd a’r ieithoedd i gyd.
“Dan ni ddim yn gwybod beth fydd yr ymatebion ymlaen llaw o ran sut mae pobol mewn gwledydd gwahanol yn meddwl am y ffilmiau.
“Yn aml wrth sôn am gynulleidfa, does neb wedi siarad hefo nhw. ’Dan ni’n ceisio newid y ffordd mae pobol yn meddwl am gynulleidfaoedd ac yn eu hystrydebu nhw fatha ‘geeks’ y byd ffantasi.”
Bydd yr holiadur ar gael ar y we tan fis Mai, sy’n elfen bwysig o’r ymchwil, yn ôl Nia Edwards-Behi.
“Bydd pobol yn gallu gweld ymatebion pobol eraill ac yn gallu gweld wedyn lle maen nhw’n ffitio i mewn i gynulleidfaoedd dros y byd.”