Mae nifer o lenorion blaenllaw yn dadlau y dylid penodi Bardd Cenedlaethol newydd sy’n medru’r Gymraeg.
Bu Gillian Clarke yn Fardd Cenedlaethol Cymru ers 2008, ond mae ei gwaith yn cael ei gyfieithu gan Menna Elfyn.
Cyn 2008, roedd Gwyn Thomas a Gwyneth Lewis yn y swydd am flwyddyn yr un.
Ar ei gyfrif Twitter, gofynnodd y darlithydd o Brifysgol Abertawe, Robert Rhys: “Pryd gawn ni fardd Cymraeg yn Fardd Cenedlaethol eto, ysgwn i, @LlenCymru?”
Nos Lun, Rhagfyr 8, mae’n dweud: ‘Sneb yn amau dawn Gillian Clarke, ond dim Bardd Cenedlaethol sy’n canu yn Gymraeg ers 2008.’
Sneb yn amau dawn Gillian Clarke, ond dim Bardd Cenedlaethol sy’n canu yn Gymraeg ers 2008. Rhesymol gofyn pam @LlenCymru ?
— Robert Rhys (@Robert_G_Rhys) December 8, 2014
Yn ôl y darlithydd o Brifysgol Abertawe a’r bardd Tudur Hallam, sydd am bwysleisio ei fod yn edmygydd o waith Gillian Clarke, nid yw’n bosib cael un Bardd Cenedlaethol ar gyfer y ddwy iaith.
Dywedodd wrth Golwg: “Mae barddoniaeth yn ymwneud â dau beth yn bennaf, ffurf iaith a chynnwys iaith, a does dim modd cyfieithu’r rhain heb eu newid. Mae’n dilyn felly na all yr un bardd Saesneg gynrychioli’r gynulleidfa Gymraeg nac ymestyn chwaith y traddodiad barddol
Cymraeg, ac mae’r un peth yn wir i’r gwrthwyneb.”
Mae Golwg yn disgwyl ymateb gan Lenyddiaeth Cymru.
Gellir darllen rhagor yn rhifyn Golwg yr wythnos hon.