Golygfa o'r gyfres Y Gwyll
Roedd penderfyniad cyngor sir i adael i griw teledu Y Gwyll ffilmio golygfa mewn ysgol gafodd ei chau ychydig fisoedd yn ôl yn “ansensitif”, yn ôl gwrthwynebwyr.
Mae pobol o Lanafan ger Aberystwyth wedi ymateb yn chwyrn i benderfyniad Cyngor Sir Ceredigion i ganiatáu i’r criw teledu ffilmio’r gyfres, sy’n ymddangos ar S4C, yn ysgol y pentref a hebrwng dros 10 o blant o ysgolion cyfagos i’r safle.
Cafodd Ysgol Gynradd Llanafan ei chau ym mis Medi eleni, er gwaethaf ymgyrch lleol i’w chadw ar agor.
Roedd cadeirydd yr ymgyrch, Byron Jenkins, yn teimlo bod y cyngor yn rhoi “halen ar y briw” wrth roi caniatâd i’r criw teledu ffilmio yn yr ysgol.
‘Pwnc sensitif’
“Fe ddaeth tua deg o bobol y pentref ata’ i oedd yn teimlo bach yn sensitif am y sefyllfa,” meddai Byron Jenkins.
“Roeddem ni’n meddwl y dylai rhywun yn rhywle fod wedi stopio a meddwl, falle y dylen ni fod yn ofalus o beth ydym ni’n ei wneud – ond wnaeth hynny ddim digwydd.
“I ddweud y gwir, mae’r criw ffilmio wedi deall y sefyllfa yn well na’r cyngor sir ac wedi bod yn fwy sensitif am y peth. Dydyn nhw [y cyngor] heb ymateb i neb, dim ond gadael y peth a ddim wedi gofyn cwestiynau o gwbl.
“Bydden i wedi meddwl y basa’r cyngor wedi medru ymgynghori a gofyn i bobol leol beth oedden nhw’n ei feddwl o’r sefyllfa. Dw i’n meddwl bod y bai yn disgyn ar y cyngor yn hytrach na’r criw ffilmio.
“Mi fuo ‘na lot o frwydro i geisio cadw’r ysgol yn agored ac mae hyn wedi rhoi halen ar y briw.”
Mae’r Cyngor Sir Ceredigion wedi dweud wrth golwg360 na fydden nhw’n rhoi ymateb.