Mae un o benaethiaid y BBC wedi dweud ei fod yn disgwyl colli gwylwyr pan fydd BBC3 yn symud i’r we.
Pe bai’r cynlluniau’n cael eu cymeradwyo gan Ymddiriedolaeth y BBC, fe allai’r orsaf dargedu gwefannau cymdeithasol er mwyn ceisio denu cynulleidfaoedd newydd.
Ond mae cyfarwyddwr teledu’r BBC, Danny Cohen wedi dweud ei fod yn disgwyl i gynulleidfaoedd ostwng cyn iddyn nhw gynyddu eto.
Bwriad y BBC wrth symud yr orsaf yw arbed hyd at £50 miliwn.
Bydd 80% o’r gyllideb yn cael ei wario ar gomedi a rhaglenni dogfen, tra bydd 20% yn cael ei wario ar ffilmiau byrion a chyfryngau digidol.
Bydd gorsaf BBC +1 hefyd yn cael ei lansio, ac fe fydd CBBC ar gael i blant am ddwy awr ychwanegol bob nos.
Dywedodd Danny Cohen: “Rydym yn disgwyl gostyngiad ar y cyfan ar y dechrau a dyna pam ein bod ni am i BBC1 a BBC2 gymryd y straen.
“Hefyd, dyna pam ein bod ni’n gweld hwn fel pecyn yn ein cynnig i’r Ymddiriedolaeth ar gyfer BBC +1 gan ein bod ni’n gwybod fod y gorsafoedd +1 yn bwysig iawn i bobol.”
Mae cyfarwyddwr cyffredinol y BBC, Tony Hall, yn dweud bod y cynlluniau’n rhan o broses i “drawsffurfio’r BBC ar gyfer yr oes ddigidol”.
Dywedodd: “Trwy chwilio am ffyrdd newydd o ymgysylltu â chynulleidfaoedd ifainc a’u diddanu ar eu telerau nhw eu hunain, bydd y BBC3 newydd yn enghraifft wych o sut allwn ni ail-ddyfeisio’r gwasanaeth cyhoeddus ar gyfer y byd digidol.”
Mae 187,000 o bobol wedi llofnodi deiseb yn galw ar y BBC i beidio symud BBC3 i’r we.