Dylan Thomas
Mae Prifysgol Abertawe wedi prynu llyfr nodiadau’r bardd Dylan Thomas am £85,000 mewn ocsiwn.
Wrth brynu’r llyfr, dywedodd y brifysgol eu bod nhw’n bwriadu sicrhau bod y llyfr ar gael i ysgolheigion.
Roedd y llyfr wedi’i gadw mewn drôr cyn iddo fynd i ocsiwn yn Sotheby’s.
Mae’n un o bump o lyfrau nodiadau a gafodd eu defnyddio gan Dylan Thomas, ac mae’r pedwar arall yng ngofal Prifysgol Talaith Efrog Newydd.
Pan gafodd y llyfr ei ddarganfod, dywedodd Athro’r Saesneg Prifysgol Abertawe, John Goodby mai hwn oedd y darganfyddiad mwyaf ers marwolaeth Dylan Thomas yn 1953.
Aeth yr arbenigwr ar Dylan Thomas, Jeff Towns i’r ocsiwn ar ran y brifysgol.
‘Cyflawniad anferth’
Dywedodd mewn datganiad: “Alla i ddim meddwl am unrhyw beth mwy addas a phwrpasol i dynnu blwyddyn fywiog o ddathlu canmlwyddiant geni bardd gwych i ben.
“Pe bai unrhyw un wedi awgrymu’r fath beth fis Ionawr diwethaf, byddwn i wedi dweud y byddai’n amhosib ar lawer ystyr.
“Mae cael dychwelyd y llyfr nodiadau coll hwn – sydd mor ddadlennol ac ingol – i Abertawe a’i gadw yng Nghymru ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol yn gyflawniad anferth ac rwy wrth fy modd o gael chwarae rhan fach yn y cyfan.”
‘Ychwanegiad hyfryd’
Bydd y llyfr yn cael ei gadw ymhlith Archifau Richard Burton, sydd eisoes yn gartref i ddyddiaduron yr actor o Bont-rhyd-y-fen.
Hefyd yn rhan o’r casgliad mae papurau academaidd gan Raymond Williams, a chasgliad o ysgrifau’r glowyr.
Dywedodd Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe, yr Athro Iwan Davies: “Fel y brifysgol ym man geni’r bardd ac fel noddwr Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas, mae’n addas ein bod ni wedi gallu sicrhau bod y llyfr nodiadau hwn yn aros yng Nghymru a’i fod ar gael i ysgolheigion.
“Bydd y llyfr nodiadau’n ychwanegiad hyfryd i’n casgliad helaeth a phwysig o archifau.”